Thessaloníci
Gwedd
Math | dinas fawr, dinas â phorthladd |
---|---|
Enwyd ar ôl | Thessalonike o Macedon |
Poblogaeth | 309,617 |
Sefydlwyd |
|
Pennaeth llywodraeth | Stelios Aggeloudis |
Gefeilldref/i | Alexandria, Durrës, Korçë, City of Melbourne, Plovdiv, Nice, Marseille, Cwlen, Leipzig, San Francisco, Hartford, Kolkata, Tel Aviv, Bologna, Tianjin, Busan, Constanța, Bratislava, St Petersburg, Shenyang, Amasya, Fenis, Tirana, Mariupol, Dnipro |
Nawddsant | Demetrius o Thessaloníci |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Groeg |
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Thessaloníci |
Gwlad | Gwlad Groeg |
Arwynebedd | 19.307 km² |
Uwch y môr | 6 metr |
Gerllaw | Thermaic Gulf |
Yn ffinio gyda | Thermaic Gulf, Triandria, Kalamaria |
Cyfesurynnau | 40.6403°N 22.9356°E |
Cod post | 530–539, 54015–54655, 56404 |
Pennaeth y Llywodraeth | Stelios Aggeloudis |
Dinas ail fwyaf Gwlad Groeg, a phrif ddinas rhanbarth Macedonia yw Thessaloníci neu Thesalonica[1] (Groeg: Θεσσαλονίκη; ceir hefyd y ffurf Salonika; Thessalonica y Testament Newydd). Mae'n brifddinas y nome llywodraeth leol o'r un enw. Mae'n sedd esgobaeth fetropolitaidd yn Eglwys Uniongred Roeg ac esgobaeth Gatholig.
Hanes
Mae'r ddinas yn gorwedd ar Fae Salonica ar ffurf ammffitheatr ar lethrau Mynydd Khortiatis. Dioddefodd dân mawr dinistriol ar 5 Awst, 1917. Yn yr hen ddinas, ar lethrau isaf y mynydd, ceir nifer o henebion pwysig o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y ddinas sydd yn cael ei rhestri fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd hynny.
Adeiladau a chofadeiladau
- Arc Galerius
- Eglwys Panayia Halkeion
- Eglwys Sant Grigor Palamas
- Tŵr Gwyn
- Tŵr OTE
Enwogion
- Sant Mitre (433-455), merthyr
- Stavros Damianides (1941-2001), cerddor
- Katia Dandoulaki (g. 1948), actores
- Nikolas Asimos (1949-1988), cerddor a chyfansoddwr
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 56.