Manaus
Gwedd
Manaus yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Amazonas yng ngogledd-orllewin Brasil. Saif ar lan afon Río Negro, heb fod ymhelkl o'i chymer ag afon Amazonas, ac roedd y boblogaeth yn 2007 yn 1,738,641.
Sefydlwyd y ddinas gan y Portiwgeaid yn 1669. Mae'n ddinas ddiwydiannol bwysig, y drydedd ym Mrasil ar ôl São Paulo a Rio de Janeiro, ac hefyd yn borthladd pwysig. Ymhlith ei hadeiladau nodedig, mae'r theatr Teatro Amazonas, a agorwyd yn swyddogol gan Caruso yn 1896.