Neidio i'r cynnwys

Pretoria

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 16:47, 24 Chwefror 2009 gan TXiKiBoT (sgwrs | cyfraniadau)
Canol Pretoria

Prifddinas De Affrica yw Pretoria. Rhennir swyddogaethau pridffdinas i raddau yn Ne Affrica, gyda rhywfaint o swyddogaethau deddfwriaethol yn Nhref y Penrhyn a swyddogaethau cyfreithiol yn Bloemfontein, ond Pretoria yw'r brifddinas de facto.

Saif yn ngogledd-ddwyrain y wlad, yn Rhanbarth Gauteng. Mae'n rhan o adral ddinesig Tshwane, ac mae symudiad ar y gweill i newid enw y ddinas ei hun i "Tshwane". Sefydlwyd y ddinas yn 1855 gan Marthinus Pretorius, a'i henwodd ar ôl ei dad, Andries Pretorius.

Mae poblogaeth y ddinas ei hun tua un miliwn, a phoblogaeth yr ardal ddinesig yn 1,985,997. Y prif ieithoedd a siaredir yno yw Tswana, Afrikaans, Ndebele a Saesneg.

Eginyn erthygl sydd uchod am Dde Affrica. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.