Neidio i'r cynnwys

Cwtiad aur

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 00:30, 26 Medi 2008 gan StigBot (sgwrs | cyfraniadau)
Cwtiad Aur
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Charadriiformes
Teulu: Charadriidae
Genws: Pluvialis
Rhywogaeth: P. apricaria
Enw deuenwol
Pluvialis apricaria
(Linnaeus, 1758)

Mae'r Cwtiad Aur (Pluvialis apricaria) yn aelod o deulu'r rhydyddion.

Yn y tymor nythu mae'n aderyn hawdd ei adnabod, gyda smotiau aur a du ar y pen a'r cefn a'r fron a'r bol yn ddu. Yn y gaeaf mae'r fron a'r bol yn troi'n wyn ac mae'n haws ei gymysgu gyda'r Cwtiad Llwyd, ond mae'n parhau i ddangos rhywfaint o aur ar y cefn.

Cwtiad Aur yn ei blu gaeaf

Mae'n nythu ar rostir agored yng ngogledd Ewrop a gorllewin Asia, gan adeiladu'r nyth ar lawr. Mae'n aderyn mudol, yn symud tua'r de yn y gaeaf cyn belled a de Ewrop a gogledd Affrica.

Yn wahanol i lawer o rydyddion, nid ydynt yn gwthio'r pig i'r mwd i chwilio am fwyd, yn hytrach maent yn cerdded o gwmpas i chwilio am unrhyw pryfed neu anifeiliaid bach sydd i'w gweld ar yr wyneb. Yn y gaeaf gellir eu gweld yn bwydo mewn caeau yn ogystal ag o gwmpas glannau'r môr.

Mae nifer fychan ohonynt yn nythu yng Nghymru ar yr ucheldiroedd, er enghraifft ar y Berwyn, ond mae'r niferoedd wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf. Yn y gaeaf mae niferoedd llawr mwy yn dod i aeafu yma, a gellir gweld heidiau o filoedd ohonynt mewn ambell fan.