Manaus
Manaus | |||
---|---|---|---|
Bwrdeisdref | |||
Bwrdeisdref Manaus | |||
Top chwith: Meeting of Waters; top dde: Teatro Amazonas; canol: golygfa o'r ddinas; chwith gwaelod: Pont Manaus–Iranduba a Rio Negro; gwaelod dde: Arena da Amazônia fin nos. | |||
| |||
Llysenw: A Paris dos Trópicos ("Paris y Trofannau") "Dinas y Jyngl" | |||
Lleoliad Bwrdeisdref Manaus ym Mrasil Lleoliad Bwrdeisdref Manaus ym Mrasil | |||
Gwlad | Brazil | ||
Taleithiau Brasil | Amazonas | ||
Sefydlwyd | 24 Hydref 1669 | ||
Llywodraeth | |||
• Maer | Arthur Virgílio Neto (PSDB) | ||
Arwynebedd | |||
• Bwrdeisdref | 11,401.06 km2 (4,401.97 mi sg) | ||
Uchder | 53 m (172 tr) | ||
Poblogaeth (2014) | |||
• Bwrdeisdref | 2,020,301 (7fed) | ||
• Dwysedd | 158.06/km2 (450.29/mi sg) | ||
• Metro | 2,316,173 (11fed) | ||
Parth amser | Amazon Time Zone (UTC-4) | ||
Côd Post | 69000-000 | ||
Cod ffôn | +55 (92) | ||
Website | Manaus, Amazonas |
Manaus yw prifddinas a dinas fwyaf talaith Amazonas yng ngogledd-orllewin Brasil. Saif ar lan afon Río Negro, heb fod ymhell o'i chymer ag afon Amazonas. Roedd y boblogaeth yn 2012 yn 2,020,371; hi felly yw 7fed dinas fwyaf Brasil.[1][2] Cyn 1939 defnyddiwyd y sillafiad Manaós, sef gair y brodorion, a chyn hynny enw'r ddinas oedd Lugar de Barra do Rio Negro, sy'n enw Portiwgaleg.
Sefydlwyd y ddinas gan y Portiwgeaid rhwng 1693–94. Mae'n ddinas ddiwydiannol bwysig, ac yn nodedig am barchu traddodiadau a diwylliant y brodorion, yn fwy nag unrhyw ddinas arall ym Mrasil. Caiff ei hystyried yn "Borth yr Amason", mae hefyd yn borthladd pwysig ac mae ganddi faes awyr.[3]
Ymhlith ei hadeiladau nodedig, mae'r theatr Teatro Amazonas a agorwyd yn swyddogol gan Caruso yn 1896.
-
Manaus
-
Teatro Amazonas
Cyfeiriadau
- ↑ Manaus tem população estimada em 1,9 milhão de habitantes, diz IBGE; adalwyd Tachwedd 2015.
- ↑ Dados do Amazonas; adalwyd Tachwedd 2015.
- ↑ Manaus Guide; adalwyd Tachwedd 2015.