Cymdeithas yr Iesu
Urdd o fewn yr Eglwys Gatholig yw Cymdeithas yr Iesu (Societas Jesu, S.J.). Gyda bron 19,000 o aelodau, mae ymhlith y mwyaf o'r urddau Catholig. Cyfeirir at yr aelodau fel Jesiwitiaid. Amcanion yr urdd yw efengylu'r byd ac amddiffyn y ffydd Gatholig. Mae'r cyfnod o hyfforddi cyn dod yn aelod llawn yn 12 hyd 14 mlynedd.
Fe'i sefydlwyd yn 1534, yn ninas Paris, gan Sant Ignatius Loyola. Ar 27 Medi 1540, derbyniwyd y gymdeithas yn swyddogol gan y Pab Pawl III. Erbyn marwolaeth Ignatius yn 1556, roedd ganddi 1,000 o aelodau. Bu'n cenhadu mewn nifer fawr o wledydd, yn cynnwys India, lle cafodd gryn lwyddiant yn Goa, a Tseina. Un o'i meysydd cenhadol mwyaf oedd De America, lle sefydlwyd nifer fawr o genhadaethau i efengylu'r trigolion brodorol, ac hefyd i'w hamddiffyn rhag rhai o'r Ewropeaid oedd yn dymuno eu troi yn gaethweision. Gwnaeth hyn y Gymdeithas yn amhoblogaidd gyda rhai o'r awdurdodau. Yn 1773, dan bwysau gan frenhinoedd Sbaen, Portiwgal a Ffrainc, cyhoeddodd y Pab Clemens XIV fod yr urdd yn cael ei diddymu. Parhaodd yn weithgar yn nwyrain Ewrop a Rwsia, gan i Ffrederic Fawr, brenin Prwsia, a Catrin Fawr, ymerodres Rwsia, wrthod diddymu'r urdd. Yn 1814, cyhoeddodd y Pab fod y gwaharddiad ar yr urdd yn cael ei ddiddymu.
Aelodau enwog
- Franciscus Xaverius (Ffransis Xavier)
- Juluan Maner, "Apostol Llydaw"