Palmach
Y Palmach (Hebraeg: פלמ"ח acronym ar gyfer Plugot Maḥatz - yn llythrennol, "milwyr sioc"). Sillefir yr enw weithiau fel Palmah hefyd) oedd yr enw Hebraeg ar un o gyrff parafilwrol Seionaidd y gymuned Iddewig, yr Yishuv. Bu'n ymladd ac amddiffyn Iddewon yn erbyn gwrthsafiad yr Arabiaid brodorol, pwerau'r Echel (Axis) yn yr Ail Ryfel Byd ac yna yn erbyn llywodraethiant Brydeinig wedi'r Rhyfel. Roedd yn rhan o lu fwy, confensiynol yr Yishuv, fel yr Haganah. Daeth i ben wedi sefydlu Gwladwriaeth Israel, pan wnaethpwyd ef yn rhan o luoedd arfog swyddogol y wlad newydd.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y Palmach ar 15 Mai 1941 ar adeg o'r Ail Ryfel Byd pan oedd yn edrych fel y gallai lluoedd y Natsïaid o dan arweiniad Erwin Rommel, dorri o Ogledd Affrica ac ym ymosod ar Balesteina. Sefydlydd y Palmach oedd Yitzhak Sadeh a gydweithiodd gyda staff y fyddin Brydeinig i greu cyrchlu a fyddai'n cynnwys Iddewon oedd wedi ymrestru yn y Fyddin Brydeinig er mwyn ymladd yn erbyn y Natsïaid. Roedd yr Uned yn un oedd wedi ei hyfforddi gan y Prydeinwyr ac yn cael ei hyfforddi mewn rhyfelgrefft sylfaenol sy'n dysgu'r pethau sylfaenol ynghyd â sabotage. Roedd y Palmach yn cynnwys:
- naw sgwadron yr oedd eu hyfforddiant yn cynnwys, ymysg pethau eraill, patrolau, hyfforddiant corfforol ac astudiaeth maes;
- sgwadron y Palyam, wedi'i hyfforddi mewn ymgyrchoedd ar y môr;
- uned comando, a fedyddiwyr yn "Peter Haas", oedd yn cynnwys gwirfoddolwyr Iddewig o'r Almaen a baratowyd ar gyfer ymsefydlu tu ôl i linellau'r gelyn;
- uned barasiwt o'r enw "Balkan"
Cynhaliwyd camau cyntaf Palmch yn 1941 gan 23 o recriwtiaid a arweiniad swyddog Brydeinig. Pwrpas y cyrch oedd er mwyn sabotage ffatri arfau yn Syria, oedd o dan gyfrifoldeb Llywodraeth Vichy Ffrainc oedd yn gefnogol i'r Natsiaid. Collwyd yr uned gyfan a does dim olion ohono hyd heddiw.
Wedi'r Rhyfel
[golygu | golygu cod]Gyda diwedd yr Ail Ryfel Byd, chwaraeodd y Palmach rôl hanfodol yn y frwydr Seionistaidd yn erbyn Llywodraeth y Mandad Prydeinig ym Mhalesteina. Roedd y Palmach nawr yn ymladd yn erbyn yr union bobl roeddynt wedi ei gefnogi cwta flwyddyn neu ddwy yn gynt.
Am gyfnod, unodd y Palmach â sefydliadau parafilwrol Seionyddol eraill i ffurfio 'Mudiad Gwrthryfel Hebraeg'. Dyna pryd trefnodd y Palmach rhyddhad gwersyll ffoaduriaid Atlit. Defnyddiwyd y tactegau sabotage i ddymchwul pontydd, gorsafoedd radar, cerbydau heddlu, cychod patrôl a'r llongau Llynges Frenhinol Brydeinig, oedd yn ceisio rhwystro mewnfudwyr a ffoaduriaid Iddewig rhag cyrraedd Palesteina. Cymerodd y Palmach rhan weithgar yn Aliyah Bet (mewnfudo anghyfreithlon gan Iddewon) a glanio cychod anghyfreithlon ar lannau Palesteina.
O fewn yr uned, tyfodd ymdeimladau cryf o frawdoliaeth rhwng yr aelodau cyffredin a'u swyddogion. Yn ogystal â'u paratoadau milwrol, bu aelodau'r Palmah hefyd yn hyfforddi ar gyfer trin y tir er mwyn paratoi ar gyfer gwladychu'r dyfodol. Ar ddiwedd 1944, sefydlodd y kibbutz Beit-Keshet ganddynt.
Cyrch olaf y Palmach fel uned annibynnol oedd yn erbyn llu filwrol answyddogol asgell dde Iddewig, yr Irgun fel rhan o Ddigwyddiad yr Altalena. Ar 22 Mehefin 1948 glaniodd yr Irgun long yr Altalena, oedd wedi ei llwytho ag arfau, oddi ar arfordir Tel Aviv. Gorchmynodd David Ben-Gurion, Prif Weinidog Israel newydd i'r Palmach rwystro'r arfau rhag cael eu glanio ar y tir. Mewn cyrch a arweiniwyd gan Yigal Allon, gydag Yitzhak Rabin fel ei ddirprwy, defnyddiwyd canon i suddo'r llong. Lladdwyd un aelod o'r Palmach ac un deg pendwar aelod o'r Irgun.[2][3]
Annibyniaeth
[golygu | golygu cod]Yn y cyfnod rhwng 29 Tachwedd 1947, pan benderfynodd y Cenhedloedd Unedig i greu gwladwriaeth Iddewig, a 14 Mai 1948, Diwrnod Datganiad Annibyniaeth Israel, prif weithgaredd y Palmach oedd trfnu cyrchoedd i ennill a chadw rheolaeth o'r ffyrdd er mwyn diogelu trafnidiaeth nwyddau, arfau a phobl Iddewig rhag ymosodiadau gan Arabiaid. Gyda genedigaeth Llu Amddiffyn Israel (yr IDF), amlyncwyd y Palmach a'r 'fyddin' answyddogol Iddewig, yr Haganah i fyddin swyddogol i wladwriaeth newydd. Daeth y mwyafrif o swyddogion unedau arbennig yr IDF mewn gwirionedd o unedau o'r Palmach.
Erbyn dechrau Rhyfel Annibynaieth Israel go iawn yn 1947 roedd gan y Palmach dros 2,000 o ddynion a menywod mewn 3 brigâd ymladd ac unedau atodol awyr, morol a chudd-wybodaeth. Collodd y Palmach gyfanswm o 1,187 o ymladdwyd yn ystod Rhyfel Annibyniaeth Israel yn y blynyddoedd cyn sefydlu'r wlad.[4] Bu farw nhw mewn cyrchoedd yn arwain at annibyiaeth ac yna lladdwy 574 yn rhan o fyddin Israel: 524 a laddwyd wrth ymladd brwydr neu gyrch; 77 fel rhan o amddiffyn neu mudo confois bwyd, arfau a phobl.
Ar 7 Tachwedd 1948 penderfynodd llywodraeth Israel datgymalwyd system staff y Palmach, gan ddadlau na allai gwlad gael mwy nag un llu arfog ac mae'r llu arfog swyddogol, a'r unig lu yn Israel bellach, fyddai'r IDF.
Pobl enwog bu'n gwasanaethu yn Palmach
[golygu | golygu cod]- Arthur Goldreich (en)
- Yitzhak Rabin
Uchel Swyddi
[golygu | golygu cod]- Yitzhak Sadeh - Prif Gomander Cyffredinol Palmach
- Yigal Allon - Ail Gyfarwyddwr Cyffredinol Palmach (1945-1948)
Pennaeth yr Unedau Arbennig
[golygu | golygu cod]- Yigal Allon - Comander Adran Syria
Swyddogion Cwmnïau (1943-)
[golygu | golygu cod]- Yigal Allon, Comander Aleph Pluga
- Moshe Dayan, Pennaeth Beth Pluga
- Rafael Eitan - 4ydd Bataliwn Cwmni A. (1948)
Cyswllt Cymreig
[golygu | golygu cod]Roedd yr awdur Iddewig, Judith Maro yn aelod o'r Palmach yn ei hieuenctid. Priododd Yehudit 'Ida' Grossman, fel oedd ar y pryd, â'r milwr Brydeinig, Jonah Jones gan symud i fyw i Gymru. Ysgrifennodd lyfr Atgofion Haganah am ei chyfnod fel aelod o luoedd arfog yr Yishuv.
Dolenni
[golygu | golygu cod]- Amgueddfa'r Palmach Archifwyd 2018-06-20 yn y Peiriant Wayback
- Testun a ffilm am y Palmach[dolen farw]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Peri, Yoman (1983). Between battles and ballots – Israeli military in politics. CUP. ISBN 0-521-24414-5.
- ↑ "פלמ"ח". www.palmach.org.il. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 2018-11-11.
- ↑ Silver, pp. 107, 108.
- ↑ "פלמ"ח". Palmach.org.il. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-01. Cyrchwyd 2011-12-17.