Neidio i'r cynnwys

Hugh Owen, Bronclydwr

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 03:30, 19 Medi 2024 gan AlwynapHuw (sgwrs | cyfraniadau)
Hugh Owen, Bronclydwr
Ganwyd1639 Edit this on Wikidata
Bu farw15 Mawrth 1700 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethgweinidog yr Efengyl Edit this on Wikidata

Roedd Hugh Owen (tua163915 Mawrth 1700) yn bregethwr ymneilltuol Cymreig cynnar sy'n cael ei ystyried fel "apostol ymneilltuaeth Meirionnydd"[1]

Cefndir

Ganwyd Hugh Owen ym Mronclydwr, Llanegryn, Sir Feirionnydd, yn blentyn i Humphrey Owen a Susan ei wraig. Roedd y teulu yn un cefnog gyda thiroedd helaeth ac yn disgyn o'r uchelwyr Cymreig. Roedd Humphrey yn fab i John Owen, mab John Lewis Owen, Aelod Seneddol Meirionnydd ym 1572 mab y Barwn Lewis ab Owain o'r Llwyn, Dolgellau.[2]

Gyrfa

Bwriadwyd y teulu ar gyfer Hugh oedd iddo ddyfod yn offeiriad yn yr eglwys wladol, ac aeth i Goleg Iesu, Rhydychen, gan ymaelodi ar 21 Gorffennaf 1660; i baratoi am ei weinidogaeth. Ond darfu pasio Deddf Unffurfiaeth 1662 a diarddel y clerigwyr na chydymffurfiasant o'r Eglwys aflonyddu ar ei gynlluniau. Gan wybod na fyddai ei ddaliadau crefyddol yn caniatáu iddo gael ei godi i'r offeiriadaeth o dan y ddeddf newydd, rhoddodd y gorau i'w addysg.

Pe bai Hugh Owen wedi cael ei ordeinio yn offeiriad, mi fyddai wedi cael ei benodi i wasanaethu yn un o eglwysi Meirionnydd oedd "yn rhodd" ei deulu. Fe wnaeth cais i ddod yn un o'r gweinidogion annibynnol newydd, ond gan nad oedd gan yr annibynwyr bwriad i sefydlu achos ym Meirion roddodd gorau i'r bwriad hwnnw hefyd. Dychwelodd i Fronclydwr i dreulio gweddill ei ddyddiau fel tirfeddiannwr a phregethwr anghydffurfiol teithiol.[3]. Cafodd ei urddo yn flaenor dysgeidiaeth yn eglwys Wrecsam, gydag awdurdod i bregethu lle y gallai yng Nghymru.

Yn ystod teyrnasiad Iago II, bu am dymor byr, yn gaeth yng Nghastell Powys, oherwydd ei ddaliadau crefyddol ond ar y cyfan ni ddioddefodd yr erledigaeth bu'n gyffredin i nifer o'i gyd grefyddwyr ar y pryd.

Yn ogystal â phregethu ym Meirionnydd, bu'n teithio i bregethu yn Sir Gaernarfon a Sir Drefaldwyn, a fu'n gyfrifol am greu sylfaen i Anghydffurfiaeth yn y siroedd hynny hefyd.[4][5]

Ar ôl pasio deddf y datganiad o oddefgarwch ym 1672, rhoddwyd trwydded wladol i gynnal cyfarfodydd crefyddol anghydffurfiol ym Mronclydwr a nifer o'r fangreoedd eraill yn Siroedd Meirionnydd, Trefaldwyn a Chaernarfon, byddai'n ymweld yn rheolaidd â hwynt a chafodd ei ordeinio yn weinidog Annibynnol i'w gwasanaethu.

Teulu

Tua 1670 priododd ei wraig, Martha, bu iddynt tair merch a mab. Olynodd y mab John ef fel gweinidog Bronclydwr. Priododd un ferch ag Edward Kenrick o Wrecsam a olynodd ei frawd-yng-nghyfraith ym Mronclydwr

Marwolaeth

Y Gofgolofn

Bu farw ym Mronclydwr yn 61 mlwydd oed, a chladdwyd ei weddillion ym mynwent Llanegryn. Codwyd cofgolofn iddo ger Capel Annibynnol Llanegryn.

Cyfeiriadau

  1. "OWEN, HUGH (1639 - 1700), pregethwr Piwritanaidd ac 'apostol Meirion.' | Y Bywgraffiadur Cymreig". bywgraffiadur.cymru. Cyrchwyd 2024-09-19.
  2. "Owen, Hugh (1639/40–1700), Independent minister". Oxford Dictionary of National Biography (yn Saesneg). doi:10.1093/ref:odnb/21006. Cyrchwyd 2024-09-19.
  3. E. Calamy, ed., An abridgement of Mr. Baxter's history of his life and times, with an account of the ministers, &c., who were ejected after the Restauration of King Charles II, 2nd edn, 2 vols. (1713)
  4. Hanes Methodistiaeth Gorllewin Meirionydd Cyf I—Y Deffroad Crefyddol yn Ymledu ar Wicidestun
  5. Hanes Eglwysi Annibynol Cymru Cyf 1—Adolygiad Sir Feirionnydd ar Wicidestun