Ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd
Mae ieithoedd yr Undeb Ewropeaidd yn ieithoedd a ddefnyddir tu mewn i aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd. Maent yn cynnwys 24 iaith swyddogol yr Undeb Ewropeaidd ynghyd ag ystod o ieithoedd eraill. Mae'r UE yn datgan ar ei wefan Europa: "Ieithoedd: ased Ewrop" ("Languages: Europe's asset"), ac mae gan yr UE Gomisiynydd Ewropeaidd dros Amlieithrwydd, sef Leonard Orban.
Yn yr Undeb Ewropeaidd, cyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau ydy polisi iaith, a nid oes polisi iaith cyffredin gan yr UE. Mae sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn chwarae rôl gefnogol yn y maes hwn, yn seiliedig ar "egwyddor cyfrifolaeth". Mae eu rôl yn cynnwys hybu cydweithrediad ymhlith yr aelod-wladwriaethau a hybu'r dimensiwn Ewropeaidd ym mholisïau iaith yr aelod-wladwriaethau. Mae'r UE yn annog ei ddinasyddion i gyd i fod yn amlieithog; yn benodol, mae'n eu hannog i allu siarad dwy iaith yn ogystal â'u mamiaith. Er bod yr UE â dylanwad cyfyngedig iawn yn y maes hwn – gan fod y cynnwys o systemau addysg yn gyfrifoldeb yr aelod-wladwriaethau unigol – mae nifer o raglenni cyllido o'r UE yn hybu'n weithredol dysgu ieithoedd ac amrywiaeth ieithyddol.
Ieithoedd swyddogol
[golygu | golygu cod]Mae gan yr Undeb Ewropeaidd 24 iaith swyddogol:
- Almaeneg
- Bwlgareg
- Croateg
- Daneg
- Eidaleg
- Estoneg
- Ffineg
- Ffrangeg
- Groeg
- Gwyddeleg
- Hwngareg
- Iseldireg
- Latfieg
- Lithwaneg
- Malteg
- Portiwgaleg
- Pwyleg
- Rwmaneg
- Saesneg
- Sbaeneg
- Slofaceg
- Slofeneg
- Swedeg
- Tsieceg
Ieithoedd eraill
[golygu | golygu cod]Catalaneg, Basgeg, Galiseg
[golygu | golygu cod]Er nad ydy'r Gatalaneg, y Fasgeg a'r Aliseg yn ieithoedd swyddogol cenedlaethol yn Sbaen, maent yn gymwys i gael eu defnyddio yn swyddogol yn sefydliadau'r UE fel ieithoedd cyd-swyddogol yn y rhanbarthau priodol.
Cymraeg, Gaeleg, Sgoteg
[golygu | golygu cod]Mewn ateb i gwestiwn ynghylch y defnydd swyddogol o ieithoedd rhanbarthol y Deyrnas Unedig (y Gymraeg, yr Aeleg a'r Sgoteg), datganodd Gweinidog y DU dros Ewrop, Douglas Alexander, yn 2005 bod y Llywodraeth heb gynlluniau i wneud darpariaethau o'r fath ar gyfer ieithoedd y DU.
Ieithoedd eraill
[golygu | golygu cod]Ar wahân i'r ieithoedd uchod, mae nifer o ieithoedd lleiafrifol eraill heb eu cydnabod ar y lefel Ewropeaidd, er enghraifft y Lwcsembwrgeg, yr Ocitaneg, y Ffriseg, a'r Ladino.
Demograffeg
[golygu | golygu cod]Mae'r tabl isod yn dangos y gyfran o ddinasyddion sydd yn gallu siarad yr ieithoedd yn y rhestr – fel mamiaith neu fel iaith dramor. Rhestrir yr ieithoedd a siaradir gan 2% o boblogaeth yr UE o leiaf yn unig.
Iaith | Fel mamiaith (% o boblogaeth yr UE) | Fel iaith dramor (% o boblogaeth yr UE) | Cyfanswm (% o boblogaeth yr UE) |
---|---|---|---|
Almaeneg | 18% | 14% | 32% |
Saesneg | 13% | 38% | 51% |
Eidaleg | 13% | 3% | 16% |
Ffrangeg | 12% | 14% | 26% |
Sbaeneg | 9% | 6% | 15% |
Pwyleg | 9% | 1% | 10% |
Iseldireg | 5% | 1% | 6% |
Groeg | 3% | 0% | 3% |
Swedeg | 2% | 1% | 3% |
Tsieceg | 2% | 1% | 3% |
Portiwgaleg | 2% | 0% | 2% |
Hwngareg | 2% | 0% | 2% |
Rwseg | 1% | 6% | 7% |
Slofaceg | 1% | 1% | 2% |
Catalaneg | 1% | 1% | 2% |
Ffynhonnell: Comisiwn Ewropeaidd (Sylwer: Cyhoeddwyd y data hyn cyn i'r Undeb gael ei ehangu yn 2007.)
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- (Saesneg) European Union interinstitutional style guide Archifwyd 2006-05-09 yn y Peiriant Wayback
- Eurominority.org, porth ar gyfer cenhedloedd a lleiafrifoedd Ewropeaidd Archifwyd 2007-06-22 yn y Peiriant Wayback