Neidio i'r cynnwys

Camera

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Camera a ddiwygiwyd gan Stefanik (sgwrs | cyfraniadau) am 13:48, 27 Mawrth 2024. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Camera
Mathoptical instrument, photo equipment, cynnyrch Edit this on Wikidata
Yn cynnwyscamera lens, photosensitive materials, system camera Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Camera Olympus E-420 DSLR gyda lens crempog 25mm.
Camera stiwdio o'r 19g gyda megin i ffocysu

Mae camera yn cael ei ddefnyddio i gofnodi lluniau neu ddelweddau ac yn ddibynnol, fel arfer, ar olau. Gall y lluniau hyn fod yn statig neu'n symudol, fel fideo, a chael eu cynhyrchu ar ffilm, ar negydd, ar bapur neu mewn fformat digidol. Gall hefyd gael ei drosglwyddo i gyfrwng arall. Daw'r gair o'r Lladin am "ystafell dywyll", sef dull cynnar o greu delwedd gyda golau'r haul, sef y camera obscura, un o gyndeidiau'r camera digidol modern.[1]

Gall y camera weithio gyda golau o'r sbectrwm weladwy neu gyda rhannau eraill o'r sbectrwm electromagnetig. Gan amlaf, mae gan camerâu gafn caeëdig gydag agorfa (yr aperture, neu dwll bychan) er mwyn i olau fynd i mewn i'r camera ac yna arwyneb recordio er mwyn cipio'r olau.[2] Mae ganddo hefyd lens o flaen yr agorfa i gasglu'r golau a'i ffocysu ar yr arwyneb recordio.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Batchen, Geoffrey. "Images formed by means of a camera obscura". Burning with Desire: The Conception of Photography. Cambridge, MA: MIT Press. tt. 78–85. ISBN 0-262-52259-4. The camera obscura looms large in traditional historical accounts of photography's invention.
  2. "Gwefan About.com; adalwyd 2 Medi 2013". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-08-07. Cyrchwyd 2010-06-18.
Chwiliwch am camera
yn Wiciadur.