Neidio i'r cynnwys

Apollo 14

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 23:03, 4 Ionawr 2012 gan Luckas-bot (sgwrs | cyfraniadau)

Trydydd taith ofod Rhaglen Apollo i lanio dyn ar y lleuad oedd Apollo 14. Lawnsiwyd o Cape Canaveral, Fflorida ar 31 Ionawr, 1971. Yr aelodau criw oedd Alan Shepard, Stuart Roosa, ac Edgar Mitchell. Cyflawnwyd dwy daith ar wyneb y lleuad gan Shepard a Mitchell. Er y ffaith nad oedd y lunar rover wedi cael ei ddatblygu ar y pryd, defnyddiodd y criw gart i gludo offer gwyddonol ar wyned y lleuad. Yn ystod yr ail daith, tarodd Shepard ( a oedd yn golffiwr amatur) beli golff am hwyl.

Dychwelodd y criw ar 9 Chwefror 1971.