Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig
Enghraifft o'r canlynol | gwaith ysgrifenedig, gwyddoniadur cenedlaethol |
---|---|
Dyddiad cyhoeddi | 2008 |
Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a gyhoeddwyd yn 2008, yw'r gwaith gwyddoniadurol mwyaf uchelgeisiol i'w gyhoeddi yn yr iaith Gymraeg ers y 19g. Mae'n ymwneud â Chymru'n unig, yn wahanol i'r Gwyddoniadur Cymreig a gyhoeddwyd mewn deg cyfrol rhwng 1854 a 1879 gan Thomas Gee oedd yn wyddoniadur cyffredinol; yn hytrach mae'n debyg i Cymru: yn Hanesyddol, Parthedegol a Bywgraffyddol a olygwyd gan Owen Jones ac a gyhoeddwyd rhwng 1871 a 1875. Cyhoeddwyd y gyfrol yn Saesneg yr un pryd wrth yr enw Encyclopedia of Wales.
Disgrifiad a hanes
[golygu | golygu cod]Mae trwch yr erthyglau am lefydd yng Nghymru ac am ei phobl. Cyfyngir yr erthyglau bywgraffyddol i unigolion sydd wedi marw. Y golygyddion yw John Davies (golygydd ymgynghorol am ddau fersiwn), Menna Baines (golygydd y fersiwn Cymraeg), Nigel Jenkins (golygydd y fersiwn Saesneg) a Pheredur Lynch.
Dechreuwyd ar y prosiect yn Ionawr 1999 a chyhoeddwyd y llyfr ar 31 Ionawr 2008, er mai 14 Tachwedd 2007 oedd y dyddiad lansio gwreiddiol.[1][2]
Arianwyd y prosiect, a gostiodd £300,000, gan yr Academi Gymreig, Gwasg Prifysgol Cymru a hefyd cymorthdal gan Gyngor Celfyddydau Cymru drwy arian Loteri.[3][4]
Ffeithiau am y gwyddoniadur
[golygu | golygu cod]- Cyfanswm y geiriau - cyfrol Cymraeg: 838,152, cyfrol Saesneg: 787,693
- Cyfanswm yr erthyglau: dros 5,000
- Nifer o dudalennau - cyfrol Gymraeg: 1,112, cyfrol Saesneg: 1,088,
- Nifer o gyfranwyr: 374
- Argraffwyd gan wasg ym Malta[5]
Beirniadaeth
[golygu | golygu cod]- Mae rhai adolygwyr wedi awgrymu nad yw'r dewis o bynciau, na'r modd mae rhai erthyglau yn ymwneud â gwleidyddiaeth wedi eu geirio'n gwbwl gytbwys, ac y dylai fod ynddo fwy o sôn am rôl y mudiad llafur Prydeinig.[6]
- Beirniadaeth arall arno yw ei bris: £65, er fod broliant gwefan Llenyddiaeth Cymru (yr Academi) yn mynnu: ""Llyfr y bydd pob teulu o Gymry sydd â’u treftadaeth yn agos at eu calon am fod â chopi ohono" – dyna sut y diffiniwyd Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig gennym."
- Nid oes sôn ynddo am Wicipedia nac am: Evan Jenkin Evans, Syr Horace Evans, Clive W. J. Granger, Thomas James Jenkin, Kenneth Glyn Jones ayb - gwyddonwyr Cymreig nag ychwaith am Gastell Gwrych a'i berchennog Lloyd Hesketh Bamford-Hesketh.
- Mae llawer o'r wybodaeth sydd ynddo'n ffeithiol anghywir gan gynnwys dyddiad marw Donald Watts Davies a fu farw yn 2000 ac nid 1999, dyddiad geni Lewis Edwards neu'r stori a geir yn yr erthygl am Gelert.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, gol. John Davies, Menna Baines, Nigel Jenkins a Peredur Lynch (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2008) ISBN 978-0-7083-1954-3
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwyddoniadur: Deufis o oedi o wefan newyddion y BBC
- ↑ Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig yn cael ei gyhoeddi Archifwyd 2008-07-24 yn y Peiriant Wayback o'r wefan swyddogol
- ↑ Gwyddoniadur Cymru ar Llais Llên, ar wefan y BBC
- ↑ "Gwefan Llenyddiaeth Cymru". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-08-30. Cyrchwyd 2012-07-27.
- ↑ (Saesneg) Inside the definitive book on Wales, WalesOnline.co.uk 26.1.2008
- ↑ (Saesneg) What is Wales? - adolygiad ar guardian.co.uk 29.3.08