Aradr
Enghraifft o'r canlynol | ethnological term |
---|---|
Math | tillage machine, vehicle attachment, perianwaith amaethyddol, offeryn |
Olynwyd gan | two-wheel tractor |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Defnyddir aradr mewn amaethyddiaeth i drin y tir cyn plannu cnydau. Mae wedi bod yn erfyn sylfaenol i'r amaethwr bron o ddechrau hanes, a chafodd datblygiad yr aradr ddylanwad mawr ar ddatblygiad amaethu. Ei brif bwrpas yw troi yr haen uchaf o bridd.
Yn draddodiadol, tynnid yr ardar gan ych ac yn ddiweddarach gan geffylau. Erbyn heddiw, defnyddir tractor fel rheol mewn gwledydd datblygedig.
Pan ddatblygodd ffermio yn wreiddiol, defnyddid erfynnau llaw i drin y tir. Wedi dofi'r ych ym Mesopotamia a Gwareiddiad Dyffryn Indus, efallai yn y 6ed ganrif CC, dyfeiswyd yr aradr gyntaf. Ar y cychwyn nid oedd ond ffrâm yn dal darn o bren a mîn ar ei flaen, a dynnid trwy'r tir. Mae'r math yma ar aradr yn gadael rhesi o bridd heb ei droi, gan adael patrwm nodweddiadol y gellir ei weld hyd heddiw mewn ambell fan. Yn ddiweddarach datblygwyd aradrau oedd yn troi'r tir yn hytrach na'i grafu; roedd datblygiad y cwlltwr yn bwysig yma.
Disgrifiadau
[golygu | golygu cod]- Troi Tir
- “...pan ddoi Mawrth i mewn byddai yn rhaid bwrw i droi tir glas.... dyma lle y byddai pob wagner gwerth ei halen yn rhoi ei orau yn ei grefft, gorau oll os medrai'r meistr fforddio i brynu un o erydr y clybiau i'r fferm.... Nid troi rywsut rywsut a wnâi y tro, byddai yn rhaid penderfynu ymhle i agor. Wedi gosod polion syth fel haul drwy dwll, cael twyswr er mwyn cadw'r ceffylau mewn llinell mor unionsyth ag yr oedd modd, a thorri, yr hyn a alwem yn gripiad, rhyw gŵys fach oddeutu dwy fodfedd o ddyfnder a honno yn berffaith union ar hyd y cae. Wedyn mesur dwy droedfedd ar hugain a thorri cŵys gyffelyb yn gyfochrog a dyna'r ddau gripiad bach wedi eu cwplhau [sic]. Y gŵys nesaf oedd yn bwysig, byddai yn ofynnol dyfnhau i ryw bedair modfedd a thorri cŵys fyddai yn gorwedd yn daclus ar y cwysi bach blaenorol ac yna ei gwynebu gyda chwys gyffelyb [sic.]. Erbyn hyn, dylai'r ddwy gŵys yr agoriad fod ar ei hongl a'u dwy grib yn wastad fel dau do tŷ. Y gamp fyddai cadw at yr un gwastadrwydd drwy gydol y gwaith, gan droi i fesur pump wrth saith, yr hyn fyddai saith modfedd o grib i grib a phum modfedd o ongl. Byddai yn ofynnol dewis y man cywir ar y copstol i gynorthwyo'r tröwr i fedru dal a rhoi pwysau ar yr ystyllen er mwyn troi yn galed i osgoi tyllau yn yr âr i'r hadyd fynd o'r golwg wrth hau.”[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ “Arferion a Chwaraeon ardal y Parc erstalwm” (traethawd am rai arferion amaethyddol a arosai yng nghof “Hen Ddwylo”, cystadleuydd yn un o Eisteddfodau cylch y Parc, Y Bala. Fe’i hysgrifennwyd yng nghanol yr 1960au; tybir mai O.T Jones, Llwynmafon (Tu Du gynt) oedd yr awdur. Gyda chaniatad a diolch i’r teulu ac i Carys Dafydd