Neidio i'r cynnwys

Demosthenes

Oddi ar Wicipedia
Dyma ddiwygiad cyfredol y dudalen Demosthenes a ddiwygiwyd gan BOT-Twm Crys (sgwrs | cyfraniadau) am 23:12, 19 Mawrth 2021. Mae'r URL yn y Bar Lleoliad uwchben yn ddolen barhaol i'r fersiwn hwn o'r dudalen hon.
(gwahan) ← Fersiwn blaenorol | Fersiwn diweddaraf (gwahan) | Fersiwn mwy newydd → (gwahan)
Demosthenes
Ganwyd384 CC Edit this on Wikidata
Upper Paiania Edit this on Wikidata
Bu farw12 Hydref 322 CC Edit this on Wikidata
Poros Edit this on Wikidata
DinasyddiaethAthen yr henfyd Edit this on Wikidata
Galwedigaethgwleidydd, diplomydd, areithydd, llenor Edit this on Wikidata
Swyddllysgennad Edit this on Wikidata
MamKleobule Edit this on Wikidata
PerthnasauGylon, Demon Edit this on Wikidata

Areithydd a gwladweinydd Athenaidd oedd Demosthenes, Groeg: Δημοσθένης, Dēmosthénēs (384 CC - 322 CC).

Astudiodd Demosthenes gelfyddyd rhethreg trwy ddysgu o areithiau enwogion y gorffennol. Traddododd ei areithiau cyntaf mewn achosion cyfreithiol pan nad oedd ond ugain oed. Am gyfnod, bu'n ennill bywoliaeth trwy ysgrifennu areithiau i eraill ac fel cyfreithiwr.

Yn ystod ei gyfnod fel ysgrifennydd areithiau, datblygodd ddiddordeb mewn gwleidyddiaeth, a dechreuodd draddodi areithiau gwleidyddol yn 354 CC. Daeth y ffigwr amlwg iawn ym mywyd cyhoeddus Athen, ac roedd yn flaenllaw ymysg y rhai oedd yn gwrthwynebu dylanwad cynyddol Philip II, brenin Macedon dros Wlad Groeg. Treuliodd lawer o amser yn ceisio adeiladu cynghrair i wrthwynebu Philip.

Wedi marwolaeth Philip, roedd Demosthenes yn un o arweinwyr y gwrthryfel yn erbyn mab Philip, Alecsander Fawr. Methodd y gwrthryfel, a mynnodd Alecsander fod Demosthenes yn cael ei alltudio o Athen. Wedi marwolaeth Alecsander, ceisiodd Demosthenes ddechrau gwrthryfel arall yn erbyn Macedon, ond methodd y gwrthryfel eto a gyrrodd Antipater, olynydd Alecsander yng Ngroeg, ei wŷr i chwilio amdano. Lladdodd Demosthenes ei hun rhag cael ei gymeryd i'r ddalfa.

Ystyrir areithiau Demosthenes yn glasuron; yr enwocaf yw ei areithiau yn erbyn Philip II, y Philipicau.