Gwyn Parry
Gwedd
Gwyn Parry | |
---|---|
Ganwyd | 1946 Rachub |
Bu farw | 19 Mawrth 2014 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor |
Roedd Gwyn Parry (1946 – 19 Mawrth 2014) yn actor Cymreig.[1].
Blynyddoedd cynnar
Cafodd ei fagu yn Rachub, Bethesda.
Gwaith theatr
Ymunodd â Chwmni Theatr Cymru yn syth o Brifysgol Bangor a bu'n rhan o'i hadran arbrofol, Theatr Antur. Bu hefyd yn aelod o Gwmni'r Fran Wen
Gwaith teledu
Ymddangosodd mewn sawl drama deledu gan gynnwys Pengelli, A470, Pobol y Cwm a Porc Peis Bach, Y Stafell Ddirgel, Treflan, Porthpenwaig, Llafur Cariad, Caryl a'r gyfres deledu i blant, Miri Mawr.[2]
Gwaith radio
Actiodd mewn nifer o ddramâu ar Radio Cymru, gan gynnwys Y Streic Fawr, Cudd fy Meian, Gwylanod, Glesni, Cwacs a Dani.[3]
Bu farw'n 67 oed yn ei gartref yng Nghaernarfon. Roedd yn dad i ddau o blant.
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Valmai (Mai 2014). Gwyn Parry (1946-2014), Rhifyn 616. Barn
- ↑ Yr actor Gwyn Parry wedi marw. BBC Cymru (20 Mawrth 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.
- ↑ Yr actor Gwyn Parry wedi marw. Golwg360 (20 Mawrth 2014). Adalwyd ar 26 Mehefin 2014.