Neidio i'r cynnwys

Rws Kyiv

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 21:57, 9 Awst 2011 gan Luckas-bot (sgwrs | cyfraniadau)
Map yn dangos estyniad Rws Kiefaidd tua 1000 OC

Gwladwriaeth ganoloesol gynnar yn nwyrain Ewrop oedd Rws Kiefaidd. Ymffurfiodd y wladwriaeth tua diwedd y nawfed ganrif, gan barháu tan iddi gael ei chwalu gan oresgyniadau'r Mongoliaid-Tatariaid yn ail chwarter y drydedd ganrif ar ddeg. Dinas Kiev oedd canol y wladwriaeth. Gwelodd cyfnod Rws Kiefaidd cyflwyniad Cristnogaeth i'r ardal gan Vladimir I yn 988.

Mae enw Rws yn tarddu o enw'r llwyth Llychlynnaidd a ddaeth i arglwyddiaethu ar y tiroedd Slafaidd dwyreiniol yn ail hanner y nawfed ganrif.

Mae hanesynion yn tueddu heddiw i gyfeirio at Rws yn hytrach na Rwsia yn y cyfnod cynnar er mwyn pwysleisio bod y wladwriaeth ganoloesol gynnar yn rhagflaenu tair cenedl fodern, Rwsia, Wcráin a Belarws, yn hytrach na Rwsia yn unig, ac hefyd am fod craidd y wladwriaeth wedi'i leoli mewn ardaloedd sydd heddiw yn rhan o Wcráin.

Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.