Zug
Gwedd

Tref fach ddeniadol yng ngogledd y Swistir yw Zug (Ffrangeg: Zoug), prifddinas y canton o'r un enw. Mae ganddi boblogaeth o 23,000 (2004), yn Gatholigion a siaradwyr Almaeneg yn bennaf. Mae'n gorwedd ar lan Llyn Zug.
Mae'n cynnwys nifer o adeiladau hanesyddol ac yn enwog am ei thwr cloc canoloesol sy'n dyddio o 1480.