Neidio i'r cynnwys

Gwrth-Ddiwygiad

Oddi ar Wicipedia
Fersiwn a roddwyd ar gadw am 12:43, 19 Mai 2021 gan Deb (sgwrs | cyfraniadau)
Cyngor Trent (hen engrafiad)

Mudiad o fewn yr Eglwys Gatholig wedi'i ymgysegredu i frwydro yn erbyn canlyniadau'r Diwygiad Protestannaidd a'u dadwneud trwy ddiwygio camarferion yn yr Eglwys a dileu heresïau, ac ati, oedd y Gwrth-Ddiwygiad (neu'r Gwrth-Ddiwygiad Catholig). Gellid dadlau iddo ddechrau'n ffurfiol gyda Chyngor Trent (1545 - 1563), a agorwyd gan y Pab Pawl III yn unswydd er mwyn atgyfnerthu'r Eglwys yn wyneb y datblygiadau chwyldroadol yng ngwledydd Protestannaidd gogledd Ewrop.

Roedd ceisio adfer "Yr Hen Ffydd" yn y gwledydd Protestannaidd newydd, fel Lloegr, Cymru, Yr Iseldiroedd a gwladwriaethau gogledd Yr Almaen yn rhan ganolog o'i strategaeth.

Roedd y Gwrth-Ddiwygiad ar ei anterth yn ail hanner yr 16g ond parhaodd hyd ganol y ganrif olynol. Gwelwyd sefydlu Cymdeithas yr Iesu (y Jeswitiaid) a'i datblygu i fod yn gorff cenhadol a anfonai offeiriad i bob rhan o'r byd, o Beriw i Tsieina a Siapan, ymestyn y Chwil-lys i wledydd eraill fel Sbaen a'r Amerig, a cheisio adfer bywyd ysbrydol a seiliau athronyddol yr Eglwys.

Ar waethaf yr erlid dan Elisabeth I, brenhines Lloegr ceisiodd y Catholigion wrthsefyll Protestaniaeth. Roedd angen cael cenhadon cyfrinachol i efengylu yng Nghymru a Lloegr. Mewn canlyniad sefydlwyd Coleg Douai yn Ffrainc i'w hyfforddi.

Gweler hefyd

Eginyn erthygl sydd uchod am hanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.
Eginyn erthygl sydd uchod am Gristnogaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.