T. Llew Jones: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Dim crynodeb golygu |
Dim crynodeb golygu |
||
Llinell 1: | Llinell 1: | ||
Capel Graig ac [[Ysgol Ramadeg Llandysul]]. Bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd [[Cadair yr Eisteddfod Genedlaethol|Gadair]] yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Glyn Ebwy 1958|Eisteddfod Glyn Ebwy]] (1958) ac eto y flwyddyn ganlynol yn [[Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959]]. |
|||
Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae ambell lyfr yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel [[Barti Ddu]] a [[Twm Siôn Cati]]. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis ''[[Ofnadwy Nos]]'', sef hanes llongddrylliad y ''[[Royal Charter]]''. Addaswyd nifer o'i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i'r [[Saesneg]] ac ambell un i ieithoedd eraill, megis [[Llydaweg]]. |
|||
{{gallery |
|||
Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan [[Prifysgol Cymru|Brifysgol Cymru]] ym [[1977]], ac enillodd [[Gwobr Mary Vaughan Jones|Wobr Mary Vaughan Jones]] am ei gyfraniad at lenyddiaeth blant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion. |
|||
Roedd T. Llew Jones hefyd yn ymwneud â [[gwyddbwyll]]. Roedd yn un o'r rhai wnaeth arwain ymgyrch lwyddiannus i weld [[Undeb Gwyddbwyll Cymru]] yn torri'n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol ym 1970. Roedd hyn yn galluogi i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun yn yr Olympiad Gwyddbwyll, a bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Nice, [[1974]]. |
|||
Sefydlodd a rhedodd Gymdeithas Gwyddbwyll Dyfed, ei chynghrair, Clwb Gwyddbwyll Aberteifi, a Chyngres Agored Dyfed. Pan fu farw, yr oedd yn Is-lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru, ac yn Llywydd am Oes Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed. Sefydlodd T. Llew hefyd [[Cylchgrawn|gylchgrawn]] ''Y Ddraig'', a bu'n olygydd ar y cylchgrawn wrth iddo dyfu o fod yn gylchlythyr Cymdeithas Gwyddbwyll Dyfed i fod yn gylchgrawn gwyddbwyll Cymru yn ystod y [[1970au]]. Mae hefyd wedi ysgrifennu [[llyfr]] yn y Gymraeg ar wyddbwyll gyda'i fab, Iolo. |
|||
Roedd yn dad i'r gwleidydd [[Emyr Llewelyn]], y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol [[Iolo Ceredig Jones]] ac Eira Prosser. |
|||
Yn 2012, enwyd ysgol gynradd newydd, Ysgol T Llew Jones, ym [[Brynhoffnant|Mrynhoffnant]] ger Llandysul, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.{{gallery |
|||
| height = 300 |
| height = 300 |
||
|Delwedd:Trysorfa T Llew Jones (llyfr).jpg|''Trysorfa T. Llew Jones'' (2012) |
|Delwedd:Trysorfa T Llew Jones (llyfr).jpg|''Trysorfa T. Llew Jones'' (2012) |
Fersiwn yn ôl 14:10, 26 Medi 2018
Capel Graig ac Ysgol Ramadeg Llandysul. Bu'n athro ac yna'n brifathro am 35 mlynedd yn Ysgol Gynradd Tre-groes ac yna yn Ysgol Gynradd Coed-y-Bryn ger Llandysul. Daeth i amlygrwydd fel bardd pan enillodd Gadair yn Eisteddfod Glyn Ebwy (1958) ac eto y flwyddyn ganlynol yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caernarfon 1959.
Er iddo barhau i farddoni, daeth yn fwyaf adnabyddus fel awdur nofelau plant. Mae ambell lyfr yn seiliedig ar gymeriadau hanesyddol fel Barti Ddu a Twm Siôn Cati. Cyhoeddodd dros 50 o lyfrau i gyd, y rhan fwyaf yn nofelau ond ambell un ffeithiol hefyd, megis Ofnadwy Nos, sef hanes llongddrylliad y Royal Charter. Addaswyd nifer o'i lyfrau ar gyfer teledu a chyfieithwyd nifer i'r Saesneg ac ambell un i ieithoedd eraill, megis Llydaweg.
Rhoddwyd gradd MA er anrhydedd iddo gan Brifysgol Cymru ym 1977, ac enillodd Wobr Mary Vaughan Jones am ei gyfraniad at lenyddiaeth blant. Ym mis Mawrth 2005, bron yn 90 oed, enillodd y gadair yn Eisteddfod Cymdeithas Ceredigion.
Roedd T. Llew Jones hefyd yn ymwneud â gwyddbwyll. Roedd yn un o'r rhai wnaeth arwain ymgyrch lwyddiannus i weld Undeb Gwyddbwyll Cymru yn torri'n rhydd o Ffederasiwn Gwyddbwyll Prydain (fel yr oedd bryd hynny) ac yn ymuno â FIDE fel aelod annibynnol ym 1970. Roedd hyn yn galluogi i Gymru gystadlu fel gwlad ar ei phen ei hun yn yr Olympiad Gwyddbwyll, a bu T. Llew yn rheolwr tîm Cymru yn Olympiad Nice, 1974.
Sefydlodd a rhedodd Gymdeithas Gwyddbwyll Dyfed, ei chynghrair, Clwb Gwyddbwyll Aberteifi, a Chyngres Agored Dyfed. Pan fu farw, yr oedd yn Is-lywydd Undeb Gwyddbwyll Cymru, ac yn Llywydd am Oes Cynghrair Gwyddbwyll Dyfed. Sefydlodd T. Llew hefyd gylchgrawn Y Ddraig, a bu'n olygydd ar y cylchgrawn wrth iddo dyfu o fod yn gylchlythyr Cymdeithas Gwyddbwyll Dyfed i fod yn gylchgrawn gwyddbwyll Cymru yn ystod y 1970au. Mae hefyd wedi ysgrifennu llyfr yn y Gymraeg ar wyddbwyll gyda'i fab, Iolo.
Roedd yn dad i'r gwleidydd Emyr Llewelyn, y chwaraewr gwyddbwyll rhyngwladol Iolo Ceredig Jones ac Eira Prosser.
Yn 2012, enwyd ysgol gynradd newydd, Ysgol T Llew Jones, ym Mrynhoffnant ger Llandysul, ar ei ôl. Roedd yr ysgol yn cymryd lle pedair ysgol Blaenporth, Glynarthen, Rhydlewis a Phontgarreg.
|
Llyfryddiaeth
Llyfrau gan T. Llew Jones (anghyflawn)
Teitl | Nodiadau | Cyhoeddwyd | Ail-gyhoeddwyd |
---|---|---|---|
Trysor Plasywernen | 1958 | 1991, Gwasg Christopher Davies & Tachwedd 2005, Gwasg Gomer | |
Trysor y Môr-ladron | 1960, Llyfrau'r Dryw | Ionawr 1989, Gwasg Gomer | |
Y Merlyn Du | 1960, Gwasg Aberystwyth | Ionawr 1995, Gwasg Gomer | |
Anturiaethau Twm Siôn Cati: Y Ffordd Beryglus |
Ebrill 1963, CLC | Mawrth 1994 & Gorffennaf 2000, Gwasg Gomer | |
Anturiaethau Twm Siôn Cati: Ymysg Lladron |
Tachwedd 1965, CLC | Chwefror 1999, Gwasg Gomer | |
Anturiaethau Twm Siôn Cati: Dial o'r Diwedd |
1968, CLC | Mehefin 1968, CLC, Tachwedd 1998 & Ionawr 2004, Gwasg Gomer | |
Ofnadwy Nos | Llyfr ffeithiol | 1971 | 31 Rhagfyr 1991 & Ionawr 1995, Gwasg Gomer |
Barti Ddu o Gasnewy' Bach | 1973 | Odan y teitl Barti Ddu: Tachwedd 1995, Gwasg Christopher Davies & Chwefror 2004, Gwasg Gomer | |
Un Noson Dywyll | 1973 | Ionawr 2003 & Chwefror 2008, Gwasg Gomer | |
Cyfrinach y Lludw | Ionawr 1975 | Ionawr 1994, Gwasg Gomer | |
Tân ar y Comin | Enillydd Gwobr Tir na n-Og | Mehefin 1975 | Rhagfyr 1993, Mehefin 2003, Gwasg Gomer |
Arswyd y byd! | Rhagfyr 1975, Gwasg Gomer | ||
Rwy'i Am Fod Yn Ddoctor | 1976, JD Lewis | ||
Lawr ar Lan y Môr | Ebrill 1977, JD Lewis | ||
Dirgelwch yr Ogof | Awst 1977, Gwasg Gomer | Tachwedd 2002, Awst 2009 Gwasg Gomer | |
Dysgu Difyr | Tachwedd 1977, JD Lewis | ||
Cerddi | 1979, JD Lewis | ||
Slawer Dydd | Rhagfyr 1979, Gwasg Gomer | ||
A Chwaraei di Wyddbwyll? | gyda Iolo Jones | 31 Rhagfyr 1980, Gwasg Gomer | |
Dewi Emrys | 1981, Cyhoeddiadau Barddas | ||
Cyfoeth Awen Isfoel | Mehefin 1981, Gwasg Gomer | ||
Ynys y Trysor | 1986, Gwasg Mynydd Mawr | ||
Storm | 1987, Gwasg Gomer | ||
Popeth am Ysbrydion | 1987, Gwasg Gomer | ||
Canu'n iach! | 1987 | Hydref 1988, Gwasg Gomer | |
Cri'r Dylluan | 31 Rhagfyr 1988, Gwasg Gomer | Mawrth 2005, Gwasg Gomer | |
Gwaed ar eu Dwylo | 31 Rhagfyr 1988, Gwasg Gomer | ||
Berw gwyllt yn Abergwaun: Hanes rhyfedd glaniad y Ffrancod yn Abergwaun yn 1797 |
1986, Gwasg Carreg Gwalch | ||
Corff ar y Traeth | Chwefror 1989, Gwasg Gomer | ||
Cerddi newydd i blant (o bob oed) | |||
Ysbryd Plas Nantesgob | |||
Dirgelwch yr Ogof | |||
Yr ergyd farwol | |||
Gormod o Raff | |||
Helicopter! help! : a storiau eraill | |||
Hen Gof: Ysgrifau llên gwerin | |||
Lleuad yn Olau | Enillydd Gwobr Tir na n-Og | 20 Ebrill 1989, Gwasg Gomer | Mehefin 1999, Gwasg Gomer |
One Moonlit Night | Cyfieithiad gan Gillian Clarke o Lleuad yn Olau | Medi 1991, Gwasg Gomer | |
Penillion y Plant | Darluniwyd gan Jac Jones | Ionawr 1990, Gwasg Gomer | Mawrth 1992, Gwasg Gomer |
Merched y môr a chwedlau eraill | |||
Cyfrinach Wncwl Daniel: Hanes Rhyfedd Hen Feddyginiaeth Lysieuol |
gyda Dafydd Wyn Jones | Ionawr 1992, Gwasg Gomer | |
Cancer Curers - Or Quacks?: The Story of a Secret Herbal Remedy |
gyda Dafydd Wyn Jones Cyfieithiad gan Dafydd Wyn Jones o Cyfrinach Wncwl Daniel | Ionawr 1993, Gwasg Gomer | |
Corn, Pistol a Chwip | 31 Rhagfyr 1992, Gwasg Gomer | ||
Cân y Morfilod | Cyfieithiad o lyfr gan Dyan Sheldon | 1993, CLC | |
Santa | Tachwedd 1993, CLC | ||
Gipsy Fires | Cyfieithiad o'i nofel Tân ar y Comin, gyda Carol Byrne Jones | Ionawr 1994, Pont Books | |
Y Gelyn ar y Trên | Ionawr 1994 | Mehefin 2004, Gwasg Gomer | |
Jona Ym Mol y Morfil | Ionawr 1994, Gwasg Cambria | ||
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 1 | 1994 | Mehefin 2000, Gwasg Gomer | |
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 2 | ? | Ionawr 1996, Gwasg Gomer | |
Trysorau T. Llew: Modrwy Aur y Bwda a Storïau Eraill | Casgliad, darluniwyd gan Jac Jones | Wedi eu cyhoeddi eisoes | Tachwedd 1997, Gwasg Gomer |
Trysorau T. Llew: Y Môr yn eu Gwaed | Detholiad Siân Lewis o rannau o nofelau cyffrous T. Llew Jones | Tachwedd 1997, Gwasg Gomer | |
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 3 | 1997 | Gorffennaf 2000, Gwasg Gomer | |
Llyfrau Darllen Newydd: Llyfr 4 | Tachwedd 1998, Gwasg Gomer | ||
Lladron Defaid | Addasiad Cymraeg o The Wild Morgans gan Alison Morgan | Mai 2001, Gwasg Gomer | |
Storïau Cwm-pen-llo | Casgliad o bedair stori | Ymddangosont yn Pethe Plant yn 1976 | 1 Tachwedd 2001, Gwasg Carreg Gwalch |
Fy Mhobol I | Hunangofiant | Awst 2002, Gwasg Gomer | Mawrth 2003, Gwasg Gomer |
Trysorfa T. Llew Jones | gol. Tudur Dylan Jones, darluniwyd gan Jac Jones | Tachwedd 2004, Gwasg Gomer | |
Bocs Anrheg | Hydref 2005, Gwasg Gomer | ||
Geiriau a Gerais | Tachwedd 2006, Gwasg Gomer |
Cryno-ddisgiau
- Lleuad yn Olau - Chwedlau Traddodiadol o Gymru, Tachwedd 2003, ail-gyhoeddwyd Chwefror 2005 (Tympan)
Llyfrau a olygwyd gan T. Llew Jones
- Cerddi Gwlad Ac Ysgol, Hydref 1976, Gwasg Gomer
- Cerddi Pentalar, Alun Cilie, Awst 1976, Gwasg Gomer
- Tales the Wind Told, Awst 1979, JD Lewis
- Cerddi Bardd y Werin - Detholiad o Farddoniaeth Crwys, Ionawr 1994, Gwasg Gomer
Llyfrau ar T. Llew Jones
- Teifi, Siân Cyfaredd y cyfarwydd : astudiaeth o fywyd a gwaith y prifardd T. Llew Jones
- Cyfrol deyrnged y Prifardd T. Llew Jones (golygwyd gan Gwynn ap Gwilym)
- Reynolds, Idris Tua'r Gorllewin . . . cofiant T. Llew Jones 2011