Thessaloníci: Gwahaniaeth rhwng fersiynau
Gwedd
Cynnwys wedi'i ddileu Cynnwys wedi'i ychwanegu
cyfeiriad |
EmausBot (sgwrs | cyfraniadau) B r2.7.3) (robot yn ychwanegu: oc:Tessalonica |
||
Llinell 84: | Llinell 84: | ||
[[nn:Thessaloníki]] |
[[nn:Thessaloníki]] |
||
[[no:Thessaloniki]] |
[[no:Thessaloniki]] |
||
[[oc:Tessalonica]] |
|||
[[os:Салоники]] |
[[os:Салоники]] |
||
[[pl:Saloniki]] |
[[pl:Saloniki]] |
Fersiwn yn ôl 21:15, 30 Hydref 2012
Dinas ail fwyaf Gwlad Groeg, a phrif ddinas rhanbarth Macedonia yw Thessaloníci neu Thesalonica[1] (Groeg: Θεσσαλονίκη; ceir hefyd y ffurf Salonika; Thessalonica y Testament Newydd). Mae'n brifddinas y nome llywodraeth leol o'r un enw. Mae'n sedd esgobaeth fetropolitaidd yn Eglwys Uniongred Roeg ac esgobaeth Gatholig.
Hanes
Mae'r ddinas yn gorwedd ar Fae Salonica ar ffurf ammffitheatr ar lethrau Mynydd Khortiatis. Dioddefodd dân mawr dinistriol ar 5 Awst, 1917. Yn yr hen ddinas, ar lethrau isaf y mynydd, ceir nifer o henebion pwysig o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd yn y ddinas sydd yn cael ei rhestri fel Safle Treftadaeth y Byd oherwydd hynny.
Adeiladau a chofadeiladau
- Arc Galerius
- Eglwys Panayia Halkeion
- Eglwys Sant Grigor Palamas
- Tŵr Gwyn
- Tŵr OTE
Enwogion
- Sant Mitre (433-455), merthyr
- Stavros Damianides (1941-2001), cerddor
- Katia Dandoulaki (g. 1948), actores
- Nikolas Asimos (1949-1988), cerddor a chyfansoddwr
Cyfeiriadau
- ↑ Jones, Gareth (gol.). Yr Atlas Cymraeg Newydd (Collins-Longman, 1999), t. 56.