Ysgol Dyffryn Conwy
Ysgol uwchradd ddwyieithog ar gyfer Dyffryn Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, gogledd Cymru, yw Ysgol Dyffryn Conwy gyda'r dalgylch yn ymestyn o Fetws-y-Coed i Langernyw ac i GCerrigydrudion. Roedd oddeutu 800 o ddisgyblion rhwng 11-18 oed ar y gofrestr yn ystod yr arolwg diwethaf (Ionawr 2008), gyda 116 yn y Chweched dosabrth.[2]). Y prfiathro yw Mr Paul Goronwy Stanley Matthews-Jones a'r dirprwyon yw Mr John Lloyd Roberts a Miss Elan Davies.
Ysgol Dyffryn Conwy | |
---|---|
Math | Cyfun, y Wladwriaeth |
Cyfrwng iaith | Dwyieithog, Cymraeg a Saesneg |
Pennaeth | Paul Goronwy Stanley Matthews-Jones |
Dirprwy Bennaethiaid | John Lloyd Roberts |
Elan Davies | |
Cadeirydd | Huw Roberts |
Sylfaenydd | Syr John Wynn, yn 1610 |
Lleoliad | Ffordd Nebo, Llanrwst, Cymru, LL26 OSD |
AALl | Cyngor Bwrdeisdref Sirol Conwy |
Disgyblion | 750 |
Rhyw | Cyd-addysgol |
Oedrannau | 11–18 |
Lliwiau | Porffor |
Cyhoeddiad | Y Bont - Cylchgrawn blynyddol yr ysgol[1] |
Gwefan | www.ysgoldyffrynconwy.org |
Mae'r ysgol ar safle newydd yn nhref farchnad Llanrwst ac o dan reolaeth cwmnni preifat Sodexo. Mae'r hen safle, fu'n gartref i'r hen ysgol ramadeg, Ysgol Rad Llanrwst, yn wag ers rhai blynyddoedd. Mae'r hen safle nawr wedi ei adnewyddu ac yn gartref i Feddygfa Gwydyr, Llanrwst.
Cyn-ddisgyblion nodedig
golygu- Glyn Wise
- Kai Owen
- Paul Griffiths
- Craig Ryder
- Yr Athro R. Gwynedd Parry
- Elfyn Llwyd
- Yr Archesgob Alwyn Rice Jones
- Yr Arglwydd Dafydd Elis Thomas