Band pync/pop-pŵer Cymraeg o Gwm Tawe oedd Y Trwynau Coch.[1]. Daeth y band i amlygrwydd yn y 1970au hwyr gyda cherddoriaeth gyflym ac amrwd gyda agwedd gwrth-sefydliadol.
Ffurfiwyd y band yn 1977 gan griw o ffrindiau yn Ysgol Gyfun Ystalyfera. Cafodd y band gryn sylw wedi eu cân "Merched Dan 15" ei wahardd rhag cael ei chwarae ar Sain Abertawe. Yn ddiweddarach dywedodd Aled Glynne Davies, DJ ar yr orsaf, mai ei wahardd o ran o safon y gerddoriaeth a wnaeth nid o ran y cynnwys. Er hynny roedd y gwaharddiad yn gymorth i godi proffil y band a dywedir eu bod yn un o'r bandiau Cymraeg cyntaf i ddod at sylw John Peel, DJ ar BBC Radio 1.[2]