Y Faner
Papur newydd wythnosol, rhyddfrydol Cymraeg a gyhoeddid yn Ninbych oedd Y Faner a sefydlwyd yn 1843 gan Thomas Gee. Cyfunwyd y papur gyda phapur arall, Amserau Cymru a gyhoeddwyd yn Lerpwl, yn 1859 gan y cyhoeddwyr Gwasg Gee i greu Baner ac Amserau Cymru. Roedd yn wythnosolyn anghydffurfiol a oedd yn ymwneud â materion cyfoes.
Enghraifft o'r canlynol | papur wythnosol, papur newydd |
---|---|
Golygydd | Thomas Gee |
Cyhoeddwr | Thomas Gee |
Rhan o | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein |
Iaith | Cymraeg |
Dyddiad cyhoeddi | 4 Mawrth 1857 |
Cysylltir gyda | Mathonwy Hughes, Emyr Price, Gwilym R. Jones |
Dechrau/Sefydlu | 1857 |
Lleoliad cyhoeddi | Dinbych |
Perchennog | Thomas Gee |
Lleoliad yr archif | Papurau Newydd Cymreig Ar-lein, British Newspaper Archive |
Statws hawlfraint | parth cyhoeddus, parth cyhoeddus |
Rhagflaenydd | Yr Amserau |
Daeth Baner ac Amserau Cymru yn ddylanwad grymus ym mywydau'r darllenwyr. Roedd yn Rhyddfrydol ei agwedd a bu'n gefn i'r werin mewn achosion Radicalaidd gan amddiffyn Ymneilltuaeth ar bob cyfle. Am rai blynyddoedd o 1861 ymlaen cyhoeddwyd y papur ddwywaith yr wythnos, a llwyddodd ei berchennog i ddenu nifer o newyddiadurwyr galluog i weithio i'r papur, pobl fel John Griffith ('Y Gohebydd'). Penodwyd ef yn ohebydd Llundain i'r 'Faner', a threuliai lawer o'i amser yn gwrando ar ddadleuon y Senedd a mynychu cyfarfodydd gwleidyddol ledled Cymru.
Y llenor T. Gwynn Jones oedd is-olygydd Baner ac Amserau Cymru yn 1890. Gweithiodd William Thomas (Islwyn) a Gwilym R. Jones ar y papur am gyfnod. Bu Hafina Clwyd hefyd yn is-olygydd a golygydd Y Faner.[1]
Cyhoeddwyd Y Faner hyd 1 Ebrill 1992,[2] cyn ei ail-fedyddio'n Y Faner Newydd tua 1997.[3]
Llinell amser
golygu- Yr Amserau (1843-1859)
- Baner Cymru (1857-1859)
- Y Faner (1972-1992).
Papurau eraill a oedd yn perthyn i tua'r un cyfnod
golygu- Seren Cymru (1851)
- Y Tyst Cymreig (1867)
- Y Goleuad (1869)
- Y Gwyliedydd (1877)
- Llan a'r Dywysogaeth (1881)
Gweler hefyd
golygu- Y Faner Newydd - Cylchgrawn Cymraeg annibynnol a sefydlwyd yn 1997 gan Emyr Llywelyn ac Ieuan Wyn (a chydolygyddion). Mae'r enw yn deyrnged i'r Y Faner.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ BBC
- ↑ Newsplan Cymru
- ↑ papuraunewydd.llyfrgell.cymru; adalwyd 25 Mehefin 2016.