Wern Isaf
adeilad rhestredig Gradd II* yn Llanfairfechan
Tŷ rhestredig Gradd II* yw Wern Isaf, sydd wedi ei leoli uwchben pentref Llanfairfechan, Conwy. Cafodd ei ddylunio a'i adeiladu gan y pensaer Herbert L. North yn 1900 yn gartref iddo fo ei hun.[1] Mae dyluniad y tŷ wedi ei ddylanwadu gan yr arddull Celf a Chrefft, gyda'r ystafelloedd yn agor i'w gilydd. Mae'n un o sawl tŷ yn The Close, ystâd agored anffurfiol o dai a ddylunwyd gan North pan oedd yn byw yn Llanfairfechan ar ddechrau'r 20g.
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Llanfairfechan |
Sir | Llanfairfechan |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 56 metr |
Cyfesurynnau | 53.2567°N 3.97109°W |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Mae'r perchennog presennol, sef wyres Herbert North, yn agor y tŷ i'r cyhoedd ym mis Mawrth yn flynyddol.[2] Ymddangosodd y tŷ ar raglen deledu Y Tŷ Cymreig ar S4C yn 2008.[3]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) HL North ar wefan y BBC
- ↑ (Saesneg) Wern Isaf ar wefan Stately Homes[dolen farw]
- ↑ Wern Uchaf ar wefan S4C[dolen farw] (yn cynnwys lluniau o'r tu mewn)