Via Aurelia
Ffordd Rufeinig yn cysylltu dinas Rhufain a Pisae ar hyd arfordir gorllewinol yr Eidal yw'r Via Aurelia.
Math | ffordd Rufeinig, adeilad Rhufeinig |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Ffrainc, yr Eidal |
Statws treftadaeth | monument historique classé |
Manylion | |
Adeiladwyd y ffordd gyntaf gan Aurelius Cotta yn ail hanner y 3 CC. Roedd yn arwain tua'r gogledd ar hyd yr arfordir i Pisae (Pisa heddiw), ac oddi yno roedd y via Aemilia Scaura yn ei chysylltu a'r via Aemilia.
Yn ddiweddarach, ymestynnodd yr ymerawdwr Augustus y ffordd hyd Arelate (Arles) yn nhalaith Gallia Narbonensis, dan yr enw via Julia Augusta. Roedd hyd y via Aurelia, via Aemilia Scaura a'r via Julia Augusta gyda'i gilydd yn 962 km. Heddiw, mae priffordd y Strada Statale 1 yn dilyn y ffordd yma i raddau helaeth.