Thomas Clarke

(Ailgyfeiriad o Tom Clarke)

Cenedlaetholwr Gwyddelig ac yn un o brif ysgogwyr Gwrthryfel y Pasg yn 1916 oedd Thomas James Clarke (Gwyddeleg: Tomás Ó Cléirigh; 11 Mawrth 18573 Mai 1916).

Thomas Clarke
Ganwyd11 Mawrth 1857 Edit this on Wikidata
Ynys Wyth Edit this on Wikidata
Bu farw3 Mai 1916 Edit this on Wikidata
Dulyn Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Gweriniaeth Iwerddon Gwyddel
Galwedigaethchwyldroadwr, gwleidydd Edit this on Wikidata
PriodKathleen Clarke Edit this on Wikidata

Ganed Clarke ar Ynys Wyth yn Lloegr, lle roedd ei dad yn rhingyll yn y Fyddin Brydeinig. Symudodd y teulu i Dungannon, Swydd Tyrone, Iwerddon yn fuan wedyn. Yn 18 ymunodd a'r Irish Republican Brotherhood (IRB) ac yn 1883 gyrrwyd ef i Lundain gyda'r bwriad o beri ffrwydrad ar Bont Llundain. Cafodd ei ddal, a threuliodd y 15 mlynedd nesaf yng Ngharchar Pentonville. Rhyddhawyd ef yn 1898, a phriododd Kathleen Daly, Ymfudasant i'r Unol Daleithiau, lle bu Clarke yn gweithio i'r Clan na Gael dan John Devoy. Dychwelodd i Iwerddon yn 1907 ac agorodd siop dybaco yn Nulyn. Daeth yn ddylanwadol iawn yn yr IRB.

Yn 1915 ffurfiodd Clarke a Seán Mac Diarmada bwyllgor o fewn yr IRB i drafod cynlluniau ar gyfer gwrthryfel. Dywedir mai'r bwriad gwreiddiol oedd cyhoeddi Clarke yn Arlywydd y Weriniaeth, ond gwrthododd ef, ac felly aeth y teitl i Padraig Pearse. Pan ddechreuodd y gwrthryfel yn Ebrill 1916, roedd Clarke, fel un o'r prif arweinwyr, yn Swyddfa'r Post yn Nulyn. Wedi i'r gwrthryfelwyr ildio ar 29 Ebrill, daliwyd Clarke yng Ngharchar Kilmainham hyd 3 Mai, pan saethwyd ef gan y Fyddin Brydeinig. Ef oedd yr ail o'r arweinwyr i'w saethu, ar ôl Pearse. Etholwyd ei weddw, Kathleen, i'r Dail cyntaf a'r ail yn ddiweddarach.