Sioe gerdd
Ffurf o adloniant yw sioe gerdd sy'n cyfuno cerddoriaeth, dawns ac weithiau'r iaith lafar. Perthyna'n agos i opera, ond yn gyffredinol bydd sioe gerdd yn defnyddio cerddoriaeth boblogaidd, tra na cheir defnydd o sgwrs mewn opera. Ceir eithriadau er hynny.
Enghraifft o'r canlynol | genre gerddorol, dosbarth o theatr, type of dramatico-musical work |
---|---|
Math | musical drama, gwaith clyweld, drama, performing arts production |
Gwlad | Ewrop |
Dechrau/Sefydlu | 1560 |
Yn cynnwys | pit orchestra, show tune |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Datblygodd sioeau cerdd cynnar allan o'r operetta. Bu Jacques Offenbach yn Ffrainc, Joseph Parry yng Nghymru a Gilbert a Sullivan yn Lloegr yn llwyddiannus iawn yn creu Opperettas, gyda cherddoriaeth ysgafnach na opera, a chyda sgwrsio. Yn sgil poblogrwydd yr operettas cynnar, datblygodd y sioeau cerdd cynnar, gan roi pwyslais ar actorion enwog oedd yn perfformio ac ar eitemau dawns mawr. Daeth 'Broadway' yn Efrog Newydd, a'r 'West End' yn Llundain yn ganolfannau pwysig i'r diwydiant.
Mae Cymru hefyd wedi cyfrannu i fyd sioeau cerdd. Ymhlith yr actorion o Gymru sydd wedi perfformio yn y 'West End' mae Shân Cothi a Michael Ball. Ceir traddodiad diweddar o gyfansoddi sioe gerdd ar gyfer yr Eisteddfod Genedlaethol. Ymysg y sioeau yma ceir 'Pum Diwrnod o Ryddid' a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Maldwyn.
Rhestr sioeau cerdd Cymraeg
golygu- 1974 Nia Ben Aur - fe'i perfformiwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Caerfyrddin ym 1974;
- 1975 Melltith ar y Nyth - geiriau gan Hywel Gwynfryn; cerddoriaeth gan Endaf Emlyn
- 1985 Ceidwad y Gannwyll - geiriau gan Robin Llwyd ab Owain; cerddoriaeth gan Robat Arwyn a Sioned Williams; fe'i perfformiwyd ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Cymru y Rhyl 1985
- 1987 Rhys a Meinir - Robin Llwyd ab Owain; perfformiwyd ym Mhafiliwn Corwen, Theatr John Ambrose, Rhuthun; unodd dau gôr cefnidrol: Côr Eifionnydd (Nan Jones) a Chôr Ieuenctid Rhuthun
- 1989 Jac Tŷ Isha gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn
- 1997 Er Mwyn Yfory - geiriau gan Penri Roberts; cerddoriaeth gan Robat Arwyn
- 2001 Adlais o'r Sêr - cerddoriaeth gan Robat Arwyn; geiriau gan nifer o feirdd, gan gynnwys Robin Llwyd ab Owain a sgwennodd y gân agoriadol Brenin y Sêr ac Yn Llygad y Llew.
- 2003 Pwy bia'r Gân? - sgript a geiriau caneuon gan Robin Llwyd ab Owain
- 2009 Clymau gan Eilir Owen Griffiths a Ceri Elen
- 2022 Ysbrydnos gan Adam Wachter a Gareth Owen; fe'i perfformiwyd am y tro cyntaf mewn cynhyrchiad gan BBC Radio Cymru ar Nos Galan Gaeaf [1]
Rhestr sioeau cerdd Saesneg
golygu- 1927 Show Boat - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Jerome Kern
- 1943 Oklahoma! - geiriau gan Oscar Hammerstein II, cerddoriaeth gan Richard Rodgers
- 1980 Les Misérables - geiriau gan Alain Boublil; cerddoriaeth gan Claude-Michel Schönberg. Stori wreiddiol gan Victor Hugo
- 1975 A Chorus Line - geiriau gan Edward Kleban; cerddoriaeth gan Marvin Hamlisch. Llyfr gwreiddiol gan James Kirkwood, Jr. a Nicholas Dante
- 2003 Avenue Q - geiriau a'r cerddoriaeth gan Robert Lopez a Jeff Marx.
- 1993 Beauty and the Beast - geiriau gan Tim Rice a Howard Ashman; cerddoriaeth gan Alan Menken. Yn seiliedig ar ffilm Disney Beauty and the Beast.
- 2001 Legally Blonde - geiriau a'r gerddoriaeth gan Nell Benjamin ac Laurence O'Keefe. Yn seiliedig ar y ffilm Legally Blonde.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Welsh language audio musical gets Halloween premiere on Radio Cymru", Nation.Cymru; adalwyd 2 Mehefin 2024