Siôn Dafydd Las
Un o'r olaf un o'r beirdd proffesiynol yng Nghymru oedd Siôn Dafydd Las neu John Davies (bu farw 1694).
Siôn Dafydd Las | |
---|---|
Ffugenw | Siôn Dafydd Las |
Ganwyd | 17 g Llanuwchllyn |
Bu farw | 1694 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | bardd |
Bywyd a gwaith
golyguYn ôl traddodiad, ganwyd y bardd ym mhlwyf Llanuwchllyn, Sir Feirionnydd, rywbryd cyn canol yr 16g. Gwyddys y bu'n byw yn ardal Penllyn am gyfnod cyn mynd yn fardd i deulu plas Nannau. Am hynny fe'i gelwir weithiau y bardd teulu olaf yng Nghymru, ond mewn gwirionedd tenau iawn yw'r cysylltiad rhyngddo â'r beirdd hynny, a ganai i osgorddion brenhinol yn yr Oesoedd Canol.[1]
Ychydig iawn o'i waith sydd wedi goroesi. Cerddi ar y mesurau carolaidd poblogaidd yw'r unig enghreifftiau o'i waith sydd ar glawr. Ond roedd yn fardd proffesiynol, serch hynny, a fu un o'r rhai olaf i dderbyn nawdd am ei ganu gan deuluoedd uchelwrol. Ond am na chanodd ar y mesurau caeth, nid yw'n arfer ei gyfrif fel un o Feirdd yr Uchelwyr fel y cyfryw.[1]
Roedd ganddo enw am fod yn dipyn o feddwyn: feddwai ac edifarhai am ei feddwdod yn barhaus. Ceir y gerdd 'Dyrïau ar Edifeirwch Meddwyn' ganddo yn y gyfrol Carolau a Dyrïau Dwyfol (1720).[1]
Mae Ap Vychan yn sôn am Siôn Dafydd Las yn ei Hunangofiant ac yn dyfynnu rhai o'r englynion hyn[2]
Parodd y boen a'r gwaew oedd yn ei ben ar ol yfed i ormodedd yn Nghorsygedol, iddo dywedyd bore drannoeth—
"Pen brol, pen lledffol, pen llaith,—pen dadwrdd,
Pen dwedyd yn helaeth:
Pen croch alw, pen crych eilwaith,
Pen a swn fel pennau saith.
"Pen chwyrn, pen terfyn wyt ti,—pen brenlwnc,
Pen barilo meddwi:
Pen rhydd, di 'menydd i mi,
Pen ffwdan—pa' na pheidi?"
Mae lle i gredu mai ef yw awdur y gainc boblogaidd 'Pant Corlan yr Ŵyn'.[1]