Senedd yr Unol Daleithiau
Uwch-dŷ y ddwy siambr yng Nghyngres yr Unol Daleithiau ydy Senedd yr Unol Daleithiau, a'r is-dŷ yw'r Tŷ Cynrychiolwyr yr Unol Daleithiau. Sefydlir cyfansoddiad a phŵerau'r Senedd a'r Tŷ yn Erthygl Un y Cyfansoddiad (sydd ddim yn defnyddio'r termau "uwch" ac "is"). Cynrychiolir pob talaith yr Unol Daleithiau gan ddau seneddwr, waeth beth fo poblogaeth y taleithiau hynny. Sicrha hyn fod gan bob talaith gynrychiolaeth gyfartal yn y Senedd. Mae seneddwyr yn gwasanaethau am dymhorau o chwe mlynedd. Lleolir siambr Senedd yr Unol Daleithiau yn yr adain ogleddol yr adeilad Capitol yn Washington D.C., y prifddinas cenedlaethol. Cyfarfydda'r Tŷ Cynrychiolwyr yn adain ddeheuol yr un adeilad.
Math | senate, elected legislative house, Awdurdodaeth (cyfraith), legislative branch agency |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Cyngres yr Unol Daleithiau |
Gwlad | UDA |
Mae gan y Senedd bŵerau arbennig nas rhoddir i'r Tŷ, gan gynnwys cydsynio i gytundebau fel rhagamod cyn y cânt eu cadarnhau a chydsynio neu gadarnhau apwyntio gweinidogion y Cabinet, barnwyr ffederal, uwch-swyddogion ffederal eraill, swyddogion milwrol a swyddogion unffurf ffederal eraill, yn ogystal ag achosion uchelgyhuddo yn erbyn swyddogion ffederal. Mae'r Senedd yn gorff mwy bwriadol na Thŷ'r Cynrychiolwyr am fod y Senedd yn llai o ran maint a'i haelodau'n gwasanaethu am gyfnod hwy, gan greu awyrgylch llai pleidiol na'r hyn a welir yn y Tŷ lle adlewyrchir agweddau'r cyhoedd yn amlycach. Ystyrir y Senedd yn gorff mwy uchelael na Thŷ'r Cynrychiolwyr am fod y cyfnodau a wasanaethir yno'n hwy, yr aelodaeth yn llai a'r etholaethau'n fwy.