Mefenydd
cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion
Cwmwd canoloesol yng nghanolbarth Teyrnas Ceredigion oedd Mefenydd. Gyda Anhuniog a Pennardd roedd yn un o dri chwmwd cantref Uwch Aeron.
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ceredigion |
Gwlad | Cymru |
Yn ffinio gyda | Anhuniog |
Cyfesurynnau | 52.32681°N 3.86269°W |
Cwmwd o siâp hirgul oedd Mefenydd, yn gorwedd i'r de o Afon Ystwyth rhwng Bae Ceredigion a bryniau Elenydd. Fffiniai â chwmwd Creuddyn yng nghantref Penweddig i'r gogledd, Cwmwd Deuddwr yn ardal Rhwng Gwy a Hafren i'r dwyrain, dros fryniau Elenydd, a chymydau Pennardd ac Anhuniog, yn yr un cantref, i'r de.
Roedd ei brif ganolfannau yn cynnwys Ysbyty Ystwyth a Llangwyryfon.