Macedoniaid
Cenedl a grŵp ethnig Slafig sydd yn frodorol i Ogledd Macedonia yn y Balcanau yw'r Macedoniaid. Maent yn cyfri am ryw 64% o boblogaeth Gogledd Macedonia.[1] Siaredir iaith Slafig Ddeheuol o'r enw Macedoneg ganddynt. Maent yn un o'r bobloedd Slafig Ddeheuol ac yn perthyn yn agos i'r Bwlgariaid.
![](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/c3/Sveti_Jovan_Bigorski.jpg/350px-Sveti_Jovan_Bigorski.jpg)
Mae'r Macedoniaid ar wasgar yn byw yn bennaf yn Awstralia, yr Almaen, Unol Daleithiau America, a Chanada.
Enwau
golyguMae'r ddadl ynglŷn ag enw'r Macedoniaid ynghlwm wrth yr anghydfod eangach dros enw'r wlad a elwir yn swyddogol yn Ogledd Macedonia. Gall yr enw "Macedoniaid" hefyd gyfeirio at y llwyth Groegaidd hynafol a drigai yn Nheyrnas Macedon yng ngogledd-ddwyrain Gwlad Groeg o'r 9g CC i'r 2g CC, neu at y boblogaeth bresennol o Roegiaid yn ardal Macedonia yng Ngwlad Groeg. Weithiau fe'i gelwir yn Facedoniaid Slafig neu Slafiaid Macedonaidd er mwyn gwahaniaethu.
Ethnogenesis
golyguDisgynnai'r Macedoniaid o'r llwythau Slafig a ymsefydlasant yn yr ardal yn ystod y 6g a'r 7g. Fe'i gelwid yn Sclavini gan y Bysantiaid. Daeth y Bwlgariaid Tyrcig yn niwedd y 7g, ac o gymysgedd y Slafiaid a'r Tyrcod bu ddatblygiad y Bwlgariaid. Am fil o flynyddoedd a rhagor, arferai'r Macedoniaid ystyried eu hunain yn yr un bobl â'r Bwlgariaid. Eginodd hunaniaeth genedlaethol ymhlith y Macedoniaid yn niwed y 19g, adeg sefydlu Eglwys Uniongred Bwlgaria ac annibyniaeth Bwlgaria oddi ar Ymerodraeth yr Otomaniaid. Arhosodd Macedonia dan dra-arglwyddiaeth yr Otomaniaid, er yr oedd mudiadau o blaid uno'r ddwy wlad. Rhennid Macedonia rhwng Gwlad Groeg, Serbia, a Bwlgaria yn sgil Rhyfeloedd y Balcanau (1912–13). Yn 1934, cydnabuwyd y genedl Facedonaidd a'i hiaith gan y Comintern, a dadleuodd y sefydliad hwnnw dros greu gwladwriaeth annibynnol i'r Macedoniaid. O ganlyniad i helyntion gwleidyddol y hanner can mlynedd ddiwethaf, cefnogwyd ymwahaniad gan nifer o Slafiaid Macedonia, er yr oeddynt yn dal i gofleidio cenedligrwydd Bwlgaraidd yn ogystal ag hunaniaeth ranbarthol Facedonaidd. Rhoddai'r enw Gweriniaeth Sosialaidd Macedonia ar un o wledydd ffederal Iwgoslafia yn 1944. Roedd y wladwriaeth Iwgoslafaidd, dan arweiniad Josip Broz Tito, yn cefnogi hunaniaeth Facedonaidd er mwyn hybu syniad iredentaidd o "Facedonia Fawr" a cheisio hawlio tiroedd Groegaidd cyfagos.[2]
Diwylliant
golyguIaith a llenyddiaeth
golygu- Prif: Llenyddiaeth Facedoneg
Cafodd yr iaith Facedoneg ei safoni wedi'r Ail Ryfel Byd gan y llywodraeth gomiwnyddol. Sail y ffurf safonol oedd tafodiaith Prilep a Titov Veleg, a benthycwyd nifer o eiriau i'r iaith gan Serbeg a Bwlgareg. Mae Macedoneg yn debyg iawn i Fwlgareg, ac hyd ganol yr 20g cafodd iaith y werin Facedonaidd ei hystyried yn grŵp o dafodieithoedd Bwlgareg. Mae tafodieithoedd Macedoneg yn parhau i ffurfio continwwm ieithyddol â thafodieithoedd Bwlgareg, ac mae nifer o Fwlgariaid yn ystyried iaith y Macedoniaid yn ffurf ar Fwlgareg ac nid iaith ar wahân. Mynnai'r Macedoniaid y gellir olrhain Macedoneg yn uniongyrchol i Hen Slafoneg Eglwysig, iaith ysgrifenedig gyntaf y Slafiaid, er bod yr honno yn ymddangos yn debycach o lawer i Hen Fwlgareg yn ôl yr ieithyddion.[2]
Crefydd
golyguCristnogion Uniongred ydy'r mwyafrif o Facedoniaid, sy'n perthyn i Eglwys Uniongred Macedonia.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Macedoneg) (Saesneg) "Census of Population, Households and Dwellings in the Republic of Macedonia, 2002 – Book XIII, Skopje, 2005" (PDF). State Statistical Office of the Republic of Macedonia. Cyrchwyd 17 Mawrth 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Vesna Garber, "Slav Macedonians" yn Encyclopedia of World Cultures, Volume IV: Europe (Central, Western, and Southeastern Europe) golygwyd gan Linda A. Bennett (Boston, Massachusetts: G.K. Hall & Co., 1992), t. 239.