Un o'r Llynnoedd Mawr yng Ngogledd America yw Llyn Michigan (Saesneg: Lake Michigan). Mae'n un o lynnoedd mwyaf y byd, efallai y pedwerydd fwyaf o ran arwynebedd os ystyrir fod Môr Caspia yn fôr yn hyrach na llyn. Gellir ystyried fod Llyn Michigan a Llyn Huron yn un llyn yn hytrach na dau. Mae cysylltiad cul rhwng y ddau lyn yma, felly mae llawer yn eu hystyried yn un llyn. Credir fod yr enw yn dod o'r Ojibweg mishigami, yn golygu "dŵr mawr".

Llyn Michigan
Mathllyn Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
Rhan o'r canlynolLake Michigan–Huron, Y Llynnoedd Mawr Edit this on Wikidata
SirMichigan, Wisconsin, Illinois, Indiana Edit this on Wikidata
GwladUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Arwynebedd57,750 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr176 metr Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau44.007874°N 86.756451°W Edit this on Wikidata
Hyd494 cilometr Edit this on Wikidata
Map

Llyn Michigan yw'r unig un o'r Llynnoedd Mawr sy'n gyfangwbl o fewn yr Unol Daleithiau. O'r gorllewin i'r dwyrain, mae'n ffinio ar daleithiau Wisconsin, Illinois, Indiana a Michigan. Mae ei arwynebedd yn 58,016 km2, ac mae'n cynnwys 4,918 km³ o ddŵr. Ceir nifer o ddinasoedd ar ei lan; yr enwocaf yw Chicago.

Lleoliad Llyn Michigan
Chicago a Llyn Michigan yn y gaeaf
Machlud haul dros Lyn Michigan
Eginyn erthygl sydd uchod am yr Unol Daleithiau. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.