Llygredd aer
Llygredd a achosir drwy ryddhau nwyon, solidau mân, neu erosolau hylifol gwasgarog i'r atmosffer ar gyfradd sy'n mynd yn fwy na'r gallu naturiol i wasgaru, gwanhau neu amsugno'r sylweddau hynny yw llygredd aer.[1] Fel arfer cyfeiria "llygredd" at allyriannau gan ddyn (anthropogenig). O bryd i'w gilydd mae hefyd ffynonellau eraill o'r un sylweddau. Gall hyn creu dryswch wrth drafod cyfrifoldebau. Yn 2014 adroddodd Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) y bu llygredd awyr yn gyfrifol am tua 7 miliwn marwolaeth cyn ei amser yn 2012[2]. Yn ôl data Iechyd Cyhoeddus Cymru a gyhoeddwyd gan y BBC yn 2017[3] mae tua 2,000 yn marw (ryw 6% o'r cyfanswm) cyn ei hamser yng Nghymru pob blwyddyn o'i effaith; yn ail dim ond i ysmygu ac yn fwy o gonsýrn na gordewdra ac alcohol[3].
Math o gyfrwng | type of pollution |
---|---|
Math | llygredd amgylcheddol, llygredd, emission |
Achos | Car, echdoriad folcanig, tân gwyllt, llwch, carbon monocsid |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhybudd! | Mae angen cywiro iaith yr erthygl hon. Beth am fynd ati i'w chywiro? Dyma restr o erthyglau i'w cywiro: Tudalennau â phroblemau ieithyddol. |
Cyhoeddir ar-lein adroddiadau cyson (beunyddiol ?) a manwl o ryw 40 safle monitro[4] gan Ansawdd Aer (Awyr) Cymru. Ceir hefyd ar ei wefan adroddiadau seminarau a ffeithiau ar y pwnc[5]. (Sefydlwyd Fforwm Ansawdd Aer Cymru yn 1994 gan banel Swyddogion Uwch Iechyd yr Amgylchedd yng Nghymru - fel y'u gelwyd ar y pryd[6].)
Sylweddau sy'n llygru awyr
golygu- Ocsidau carbon (carbon deuocsid, CO2 a charbon monocsid, CO)[7].
- Ocsidau sylffwr (sylffwr deuocsid, SO2 a sylffwr triocsid SO3; cyfeirir atynt yn dorfol fel SOx)[8].
- Ocsidau nitrogen (ocsid nitraidd, NO2 ac ocsid nitrig, NO; cyfeirir atynt yn dorfol fel NOx)[9].
- Amonia (NH3).
- Radicalau hirhoedlog. Er enghraifft nitrocsadau.
- Sylweddau organig anweddol. Er enghraifft asetaldehyd, acrolein, bensin[11], 1,3-bwtadien[12], fformaldehyd a hydrocarbonau amlgylchog[13]. Hefyd methan (CH4) a sylweddau'n cynnwys Clorin a Fflworin[14].
- Sylweddau ymbelydrol.
- Gronynnau.[16]
Peiriannau diesel fel ffynonellau llygredd awyr
golyguMae sawl math o beiriant tanio mewnol. Dau fath, yn bennaf, a welir yn pweru cerbydau ffyrdd a rheilffyrdd y byd: y peiriant petrol a'r peiriant diesel. Mae'r ddau'n gyfrifol am allyriadau a all lygru'r awyr ac o'r herwydd, yn gynyddol yn destun cyfreithiau sy'n ymwneud â diogeli'r amgylchedd[17]. Oherwydd cymhareb cywasgedd uwch (a'r tymheredd llosgi gysylltiedig) mae'r peiriant diesel yn fwy effeithiol na'r peiriant petrol wrth ryddhau egni cemegol tanwydd hydrocarbon. O'r herwydd, mae iddo lai o droednod CO2, ac felly'n fanteisiol o safbwynt newid hinsawdd. Ond am sawl rheswm mae'n cynhyrchu mwy o allyriadau ocsidau nitrogen wrth i nitrogen yr awyr losgi gyda'r tanwydd yn y silindr. Hyn oherwydd y tymheredd uwch a'r ffaith fod fwy o ocsigen yn y silindr na sydd ei angen i lwyr losgi'r tanwydd[18]. Bu hyn yn destun scandal a ddaeth i'r wyneb yn 2015 wrth iddo ymddangos fod ambell gynhyrchwr ceir wedi twyllo profion annibynnol yn fwriadol[19]. Arweiniodd hyn i gryn drafodaeth o fewn ac o'r tu allan i'r diwydiant ceir[20].
Yn ogystal â'r cemegau anweddol, mae allyriad peiriant diesel hefyd yn cynnwys gronynnau soled microsgopig. Dosbarthir y rhain yn ôl eu maint a'u cynnwys. Y mathau mân a tra-mân sydd o bwys i iechyd gan eu bod yn cyrraedd cilfachau cila'r ysgyfaint. Gronynnau carbon ydynt yn bennaf, sydd yn cynnwys olion sylweddau organaidd, sylffad, nitrad, metalau ac elfennau hybrin eraill[13].
Yn sgil hyn oll aethpwyd ati i gynllunio, cynhyrchu a marchnata ceir nad ydynt yn defnyddio petrol na diesel; ceir trydan yn bennaf. Un cwmni a sefydlwyd yn unswydd i'r perwyl yw Tesla Inc[21], a ffurfiwyd yn 2003. Yn 2017 cyhoeddodd Volvo (y cwmni traddodiadol gyntaf i wneud hynny) y byddent yn cynnig motor drydan ar bob un o'i modelau o 2019 ymlaen[22]. Yng Ngorffennaf 2017 cyhoeddodd Llywodraeth Ffrainc ei bwriad i wahardd gwerthu ceir sy'n defnyddio petrol neu diesel erbyn 2040[23]. Ychydig wythnosau yn ddiweddarach cyhoeddodd Llywodraeth Gweledydd Prydain yr un bwriad ar gyfer ceir newydd[24].
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Air pollution. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 19 Chwefror 2014.
- ↑ 7 million premature deaths annually linked to air pollution (WHO, 24/3/2014) [1]
- ↑ 3.0 3.1 Llygredd aer yn 'argyfwng' iechyd cyhoeddus yng Nghymru (BBC Cymru Fyw, 7/3/2017) [2]
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-04-22. Cyrchwyd 2017-07-07.
- ↑ "Ansawdd Aer Cymru. (darllenwyd 07/07/2017)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-25. Cyrchwyd 2017-07-07.
- ↑ "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-05. Cyrchwyd 2017-07-07.
- ↑ Carbon monocsid (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ Sylffwr deuocsid (Ansawdd Aer Cymru) (darllennwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ Ocsidau nitrogen (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ Osôn a chyfansoddion organig anweddol (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[3][dolen farw]
- ↑ Bensen (sic) (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ 1,3-Biwtadïen (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ 13.0 13.1 "Diesel Particulate Matter (US-EPA) (dyddiwyd 10/4/2017)". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-05-08. Cyrchwyd 2017-07-06.
- ↑ Micro-Lygryddion Organig Gwenwynig (TOMPS) (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[4][dolen farw]
- ↑ Plwm a Metelau Trwm (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ Gronynnau Mân (Ansawdd Aer Cymru) (darllenwyd 7/7/2017)[dolen farw]
- ↑ Exhaust Air Quality Pollutant Emissions Testing (Asiantaeth Ardystio Cerbydau'r DU, adalwyd 5/7/2017) [5][dolen farw]
- ↑ Why does diesel exhaust contain more nitrogen dioxide than other combustion engines? (Quora, 7/8/2014) [6]
- ↑ Revealed: nearly all new diesel cars exceed official pollution limits (Guardian, 23/4/2016) [7]
- ↑ Euro 6 emissions standards: what do they mean for you? (Auto Express, 13/11/2016) [8]
- ↑ "About Tesla". Tesla Inc. 2017. Cyrchwyd Gorffennaf 26 2017. Check date values in:
|access-date=
(help) - ↑ "Volvo goes electric across the board". BBC News. 5 Gorffennaf 2017.
- ↑ "France set to ban sale of petrol and diesel vehicles by 2040". BBC News. 6 Gorffennaf 2017.
- ↑ "New diesel and petrol vehicles to be banned from 2040 in UK". BBC News. 26 Gorffennaf 2017.