Llyfr Mawr y Plant

Llyfr plant a fu'n garreg filltir ym myd cyhoeddi llyfrau plant yn y Gymraeg yw Llyfr Mawr y Plant. Cyhoeddwyd yr argraffiad cyntaf gan wasg Hughes a'i Fab, Wrecsam, ym 1931.

Clawr blaen argraffiad 1af Llyfr Mawr y Plant

Jennie Thomas (1898–1979) a J. O. Williams (1892–1973) oedd awduron y gyfrol, sy'n cynnwys amrywiaeth o straeon a digrifluniau wedi'u hanelu'n bennaf at blant iau. Ceir darluniau lliw yn y llyfr gan yr arlunydd Peter Fraser. Dyma'r cais cyntaf yn hanes llyfrau Cymraeg (ac eithrio Llyfr y Bobl Bach yn 1925) i greu llyfr i gystadlu a'r blwyddlyfrau Nadolig Saesneg poblogaidd.

Ychydig iawn o lyfrau plant da oedd ar gael yn y Gymraeg yr adeg honno, a gwnaeth Llyfr Mawr y Plant gyfraniad sylweddol yn y frwydr i ddenu pobl ifanc i ddarllen llyfrau Cymraeg. Meddai W. J. Gruffydd amdano:

Dyma yn sicr lyfr sydd nid yn unig yn debyg i Christmas Books y Saeson, ond ym mhopeth — testun, diwyg, darluniau, pris, cystal â'r goreuon ohonynt, a gwell o lawer na rhan fawr.

Rhwng cloriau Llyfr Mawr y Plant ymddangosodd cymeriadau cartŵn poblogaidd fel Siôn Blewyn Coch a Wil Cwac Cwac am y tro cyntaf.

Cafwyd tair cyfrol arall o Lyfr Mawr y Plant, ym 1939, 1949, a 1975 (ond fersiwn pur wahanol oedd yr olaf, ar ôl bwlch o chwarter canrif). Yn y flwyddyn 1999 fe gyhoeddwyd y detholiad Llyfr Mawr y Plant: Goreuon y Pedair Cyfrol gan Wasg Carreg Gwalch mewn cyfrol clawr caled debyg i'r llyfrau gwreiddiol.

Prif ffynhonnell

golygu

Mairwen a Gwynn Jones, Dewiniaid Difyr (Gwasg Gomer, 1983)

Gweler hefyd

golygu