Lluan
Santes o'r 5g oedd Lluan ac un o 24 o ferched Brychan Brycheiniog.[1]
Lluan | |
---|---|
Ganwyd | 5 g |
Bu farw | 6 g |
Man preswyl | Llanllugan |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arweinydd crefyddol |
Blodeuodd | 5 g |
Tad | Brychan |
Priod | Gabrán mac Domangairt |
Plant | Áedán mac Gabráin |
Hanes a thraddodiad
golyguDywedir iddi briodi â'r tywysog Gafran ap Dyfnwal Hen o'r Hen Ogledd ac iddynt gael mab, Áedán mac Gabráin (neu 'Aeddan fab Gafran'). Cyfeirir ato yn y Trioedd fel bradwr am iddo ochri gyda'r Eingl-Sacsoniaid.[2] Daeth yn frenin ar Sgotiaid Dál Riada (tua 573-608). Yn ôl y traddodiad Cymreig, ffoes Aeddan gyda'i fam i Ynys Manaw ar ôl Brwydr Arfderydd.
Eglwysi
golyguCeir Capel Llanlluan rhwng Llanarthne a Llandybie yn Sir Gaerfyrddin. Mae'r y gair llugan yn enw Llanllugan, Powys, yn ffurf ar yr enw Lluan. Sefydlwyd Llanllugan ganddi, llan a goroesodd tan y 12g[3] pan trowyd yn leiandy gan y Sistersiaid. Dwedir fod Enoc, abad cyntaf mynachdy Sistersiaid Ystrad Marchell wedi priodi un o 'leianod' Llanllugan a bu cysylltiad agos rhwng y ddau le hyd at y Diwygiad Mawr.
Gweler hefyd
golyguDylid darllen yr erthygl hon ynghyd-destun "Santesau Celtaidd 388-680"