John Viriamu Jones

gwyddonydd, a phrifathro cyntaf Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd

Gwyddonydd o Gymru oedd John Viriamu Jones (2 Ionawr 1856 - 1 Mehefin 1901). Cafodd ei eni ym Mhentre Poeth, Abertawe, yn fab i Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr.[1][2]

John Viriamu Jones
Ganwyd2 Ionawr 1856 Edit this on Wikidata
Pentre Poeth Edit this on Wikidata
Bu farw1 Mehefin 1901, 1901 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCymru, Teyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethmathemategydd, ffisegydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCymrawd y Gymdeithas Frenhinol Edit this on Wikidata

Bu ym mhrifysgolion Llundain a Rhydychen, lle lwyddodd i gael gradd dosbarth cyntaf mewn mathemateg a ffiseg. Yn 1881 fe'i gwnaed yn brifathro Coleg Frith, a newidiwyd ei enw'n ddiweddarach i Brifysgol Sheffield. Yn 1883, ac yntau'n dal yn ei ugeiniau, daeth yn brifathro Coleg Prifysgol De Cymru a Sir Fynwy ac yn Ganghellor cyntaf Prifysgol Cymru yn 1895.

Yn 1901 bu farw yng Ngenefa, y Swistir.

Cofiant

golygu
  • Katherine Viriamu Jones, Life of John Viriamu Jones (Llundain, 1915)

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Jones, Edgar William. Jones, John Viriamu (1856–1901). Y Bywgraffiadur Cymreig. Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Adalwyd ar 21 Medi 2019.
  2. Poulton, Edward Bagnall (1911). John Viriamu Jones and Other Oxford Memories (yn Saesneg). Llundain: Longmans, Green and Co.. URL
   Eginyn erthygl sydd uchod am wyddonydd o Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.