John Cale

cyfansoddwr a aned yn Garnant yn 1942

Cerddor yw John Cale (ganwyd 9 Mawrth 1942). Efe a sefydlodd y band arbrofol The Velvet Underground gyda Lou Reed yn 1965. Cafodd ei eni yn y Garnant, Sir Gaerfyrddin.

John Cale
GanwydJohn Davies Cale Edit this on Wikidata
9 Mawrth 1942 Edit this on Wikidata
Garnant Edit this on Wikidata
Man preswylGarnant, Dinas Efrog Newydd, Los Angeles, Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records, Reprise Records, Island Records, Illegal Records, SPY Records, A&M Records, ZE Records, Beggars Banquet Records, Hannibal Records, EMI Records, Double Six Records, I.R.S. Records, All Saints Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Goldsmiths, Prifysgol Llundain
  • Ysgol Ramadeg Rhydaman Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr-gyfansoddwr, cynhyrchydd recordiau, actor, awdur geiriau, hunangofiannydd, model, actor ffilm, actor teledu, trefnydd cerdd, cerddoror arbrofol, pianydd, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, cyfansoddwr, cyfarwyddwr ffilm, canwr Edit this on Wikidata
Blodeuodd1997 Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Warner Bros. Records Inc. Edit this on Wikidata
Adnabyddus amParis 1919, Music for a New Society Edit this on Wikidata
Arddullroc arbrofol, roc amgen, roc celf, roc poblogaidd, roc gwerin, drone music, proto-punk, avant-garde music, spoken word, cerddoriaeth glasurol, cerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata
Prif ddylanwadAntonio Vivaldi, Iannis Xenakis, Morton Feldman, Edgard Varèse, La Monte Young, Bedřich Smetana Edit this on Wikidata
MudiadFluxus Edit this on Wikidata
TadWilliam Arthur George Cale Edit this on Wikidata
MamMargaret Davies Edit this on Wikidata
PriodBetsey Johnson, Cynthia Wells, Risé Cale Edit this on Wikidata
PartnerClaudia Gould, Jane Friedman Edit this on Wikidata
PlantEden Cale Edit this on Wikidata
Gwobr/auOBE, gradd er anrhydedd, gradd er anrhydedd, Człowiek ze Złotym Uchem, Rock and Roll Hall of Fame Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://john-cale.com Edit this on Wikidata
llofnod

Yn enwocaf am ei gerddoriaeth roc, mae Cale hefyd wedi gweithio mewn amryw o genres yn cynnwys drôn a chlasurol. Astudiodd yng Ngholeg Goldsmith, Prifysgol Llundain. Ers gadael The Velvet Underground mae Cale wedi rhyddhau dros ddwsin o recordiau hir unigol ac wedi gweithio gyda rhai o enwau mawrion y byd roc yn cynhyrchu neu’n chwarae offerynnau.

Ymhlith y rhai mae Cale wedi cydweithio â nhw yw: Lou Reed, Nico, La Monte Young, John Cage, Terry Riley, Hector Zazou, Cranes, Nick Drake, Mike Heron, Kevin Ayers, Brian Eno, Patti Smith, The Stooges, Lio, The Modern Lovers, Art Bergmann, Manic Street Preachers, James Dean Bradfield, Super Furry Animals, Catatonia, Manchild, Big Leaves, Derrero, Tystion, Fernhill, Gorky's Zygotic Mynci, Marc Almond, Element of Crime, Squeeze, Happy Mondays, LCD Soundsystem, The Replacements a Siouxsie and the Banshees.

Bywyd a gyrfa gynnar

golygu

Fe'i ganwyd yn ardal Cwmaman i Will Cale a Margaret Davies. Roedd ei fam yn athrawes a'i dad yn löwr. Fe'i magwyd yn uniaith Gymraeg hyd nes iddo ddechrau dysgu Saesneg wrth fynychu ysgol gynradd, er bod ei dad yn ddi-Gymraeg.[1] .

 
John Cale, 1977. Ffoto: Jean-Luc Ourlin

Mae Cale, a oedd yn unig blentyn, yn cofio pedwar brawd ei fam yn glir, yn eu plith Davey Davies a gynhyrchai, gyda'i wraig, Mai Jones, sioe radio adloniant ysgafn BBC Wales, Welsh Rarebit; hi a gyfansoddodd y gerddoriaeth i We'll Keep a Welcome, a glywyd gyntaf yn 1940. ‘Dyma beth oedd adloniant o ddifri', meddai Cale (Cale a Bockris 1999). Roedd ewythr arall, "dylanwad mawr iawn arnaf", yn canu'r ffidil, ac o ganlyniad dechreuodd Cale ddysgu’r piano a’r fiola yn y man.[2]

Roedd cerddoriaeth ac addysg o’i gwmpas ym mhobman wrth iddo dyfu, ac aeth yn ei flaen o Ysgol Gynradd Sirol y Garnant i Ysgol Ramadeg Dyffryn Aman. Bu cyfres o drafferthion personol pan oedd oddeutu’r 13 oed yn rhwystr i’w yrfa academaidd; ond maes o law enillodd Cale le i hyfforddi fel athro yng Ngholeg Goldsmiths yn ne Llundain, lle bu’n astudio rhwng 1960 ac 1963. Yn ystod ei blentyndod fe ymosodwyd arno'n rhywiol gan ddau dyn gwahanol, un ohonynt yn weinidog Anglicanaidd, o fewn eglwys.[1][3]

Wedi darganfod ei dalent yn chwarae'r fiola, astudiodd gerddoriaeth ym Mhrifysgol Goldsmiths, Llundain. Yno, cyfrannodd at gyflwyno cerddoriaeth fodernaidd ac avant-garde ei ddydd, gan gynnwys ei waith ei hun. Yn sgil cyfarfod ag Aaron Copland cafodd le yng Nghanolfan Gerddoriaeth Berkshire yn Tanglewood, Massachusetts, ond buan y symudodd i Efrog Newydd, a fu ers hynny’n ganolbwynt daearyddol i’w fywyd. Cydweithiodd â'r mudiad avant garde Fluxus gan drefnu un o'u cyngherddau cynnar ym 1964.[4] Gyda chymorth y cyfansoddwr Americanaidd enwog Aaron Copland fe deithiodd i'r Unol Daleithiau i barhau ei astudiaethau cerddorol.

Yn Efrog Newydd cyfarfu â nifer o gyfansoddwyr dylanwadol gan gymryd rhan mewn cyngerdd piano 18 awr o Vexations gan Erik Satie. Yn dilyn y gyngerdd fe ymddangosodd ar y rhaglen deledu I've Got a Secret – ei gyfrinach ei fod o wedi perfformio mewn cyngerdd 18 awr.[5] Bu hefyd yn chwarae mewn ensemble Theatre of Eteranal Music/Dream Syndicate: roedd eu cerddoriaeth drôn yn ddylanwad ar y Velvet Underground yn ddiweddarach. Un o'i gydweithwyr cynnar oedd Sterling Morrison a ddaeth yn gitarydd y Velvet Underground.

The Velvet Underground

golygu

Yn gynnar ym 1965, cyd-sefydlodd band gyda Lou Reed, yn recriwtio Angus MacLise (a oedd yn rhannu fflat ar y pryd) a Sterling Morrison. Fe ddefnyddwyd yr enwau The Primatives, a'r Falling Spikes cyn dewis y Velvet Underground, a ysbrydolwyd gan lyfr am arferion rhywiol.

 
Roedd Andy Warhol yn gynhyrchydd y Velvet Underground, er iddo adael y gerddoriaeth gael rhyddid llwyr. Llun gan Jack Mitchell.

Yn fuan cyn eu gig cyntaf (am ffi o $75 mewn ysgol gynradd), gadawodd MacLise y grŵp ac fe gymerwyd ei le gan Maureen Tucker ar ddrymiau. Er iddi ond cael ei recriwtio am y noson honno, daeth hi'n aelod sefydlog gyda'i steil dyrnu elfennol yn dod yn rhan annatod o sŵn y band, er gwaethaf amheuon Cale ar y dechrau.

Y recordiad cyntaf a rhyddhawyd oedd trac offerynnol o'r enw Loop ar ddisg-fflecsi a gynhwtswyd am ddim gyda'r cylchgrawn tanddaearol Aspen Magazine. Cafwyd ar y trac arbrawf atborth (feed-back) a ysgrifennwyd gan Cale a chwaraeodd y fiola.[6]

Roedd perthynas greadigol Cale a Reed yn rhan annatod o sŵn dau record hir cyntaf y band The Velvet Underground & Nico – Andy Warhol, 1967 a White Light/White Heat, 1968. Chwaraeai Cale y fiola yn bennaf ond yn roedd hefyd yn cyfrannu gitâr fâs, organ a llais cefndir ac yn siarad ar The Gift.

Chwaraeodd ar record cyntaf Nico, Chelsea Girl, 1967, a oedd yn cynnwys cyfansoddiadau ganddo ac aelodau eraill y Velvet Underground.

Gadawodd Cale y band ym 1968 yn rhannol oherwydd anghytundebau creadigol â Reed.

Yn dilyn marwolaeth Andy Warhol ym 1989 daeth Cale a Reed yngnghyd unwaith eto i recordio'r deyrnged Songs for Drella. Yn dilyn y prosiect fe ail-unodd y Velvet Underground ar gyfer nifer o gyngherddau ym 1993 er i Cale ddweud yn ddiweddarach nad oedd yn hapus gyda'r syniad.[7]

Gyrfa unigol

golygu

Ers gadael y Velvet Underground mae Cale wedi gweithio fel cynhyrchydd neu wedi chwarae offerynnau ar nifer fawr o recordiau hir, gan gyd-weithio â rhai o'r artistiaid mwyaf adnabyddus y byd roc.

Mae Cale wedi recordio 15 o recordiau hir unigol a hefyd wedi cynhyrchu traciau sain i nifer o ffilmiau, yn aml gan ddefnyddio steil offerynnol clasurol.

Ym 1999 cyhoeddodd ei hunangofiant What's Welsh for Zen? a chwaraeodd yn agoriad swyddogol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Roedd cyffuriau yn rhan hanfodol o gerddoriaeth Efrog newydd y 1960au a 1970au: dywedodd Cale "In the '60s, for me, drugs were a cool experiment... In the '70s, I got in over my head."[8] ond bellach mae wedi rhoi'r gorau i'w defnyddio. Yn 2009 cyflwynodd Cale raglen deledu BBC Wales Heroin, Wales and Me am broblemau cyffuriau yng Nghymru.[9]

Cynrychiolodd Cymru yn y 2009 Venice Biennale gyda'i waith 'Dyddiau Du' a archwiliai'i berthynas â'r iaith Gymraeg.[10]

Rhyddhawyd ei 16ed albwm unigol M:FANS yn Ionawr 2016. Roedd yn cynnwys fersiynau newydd o ganeuon o'i albwm Music for a New Society (1982).[11]

Mewn cyfweliad gyda Huw Stephens yn Chwefror 2016, cyhoeddodd ei fod am ddechrau cyfansoddi yn y Gymraeg a fod ganddo rhai syniadau am ganeuon yn ei famiaith yn barod.[12]

Disgyddiaeth

golygu

Recordiau Unigol

golygu
 
Cale yn 2010
  • 1970 : Vintage Violence
  • 1972 : The Academy in Peril
  • 1973 : Paris 1919
  • 1974 : Fear
  • 1975 : Slow Dazzle'
  • 1975 : Helen of Troy
  • 1981 : Honi Soit
  • 1982 : Music for a New Society
  • 1984 : Caribbean Sunset
  • 1985 : Artificial Intelligence
  • 1989 : Words for the Dying
  • 1996 : Walking on Locusts
  • 2003 : HoboSapiens
  • 2005 : blackAcetate
  • 2012 : Shifty Adventures in Nookie Wood
  • 2016 : M:FANS
  • 2023 : Mercy

Recordiau ar y cyd

golygu
  • 1971 : Church of Anthrax gyda Terry Riley
  • 1990 : Songs for Drella gyda Lou Reed
  • 1990 : Wrong Way Up gyda Brian Eno
  • 1994 : Last Day on Earth gyda Bob Neuwirth

Cynyrchiadau a chyfraniadau

golygu
  • 1967 : Nico, Chelsea Girl, fiola, organ, gitâr
  • 1968 : Morning Glory, Two Suns Worth, peiriannydd sain
  • 1968 : Larry and Tommy, Yo-Yo (sengl), cynhyrchydd
  • 1969 : Nico, The Marble Index, fiola, piano, gitâr bas, gitâr, clychau, trefniant
  • 1969 : The Stooges, The Stooges, cynhyrchydd, fiola
  • 1969 : Earth Opera, The Great American Eagle Tragedy, gitâr, llais
  • 1970 : Glass Harp, Glass Harp, fiola
  • 1970, Chelsea, Chelsea, fiola
  • 1970 : Nick Drake, Bryter Layter, fiola, piano, cembalo, celeste, organ
  • 1970 : Nico, Desertshore, llais, bass gitâr, gitâr, allweddellau, cynhyrchydd
  • 1971 : Mike Heron, Smiling Men with Bad Reputations, gitâr, gitâr bâs, llais
  • 1971 : Tax Free, Tax Free, fiola
  • 1972 : Jennifer Warnes, Jennifer, cynhyrchydd
  • 1973 : Lauren Wood , Chunky, Novi and Ernie, cynhyrchydd
  • 1974 : Nico, The End..., cynhyrchydd ac offerynnau
  • 1975 : Geoff Muldaur, Is Having a Wonderful Time, fiola
  • 1975 : Brian Eno, Another Green World, fiola
  • 1975 : Patti Smith, Horses, cynhyrchydd
  • 1976 : The Modern Lovers, The Modern Lovers, cynhyrchydd
  • 1977 : Kate & Anna McGarrigle, Dancer with Bruised Knees’’’’, organ, marimba
  • 1977 : Menace, I Need Nothing/Electrocutioner (sengl), cynhyrchydd
  • 1977 : Sham 69, I Don’t Wanna (EP), cynhyrchydd
  • 1977 : Squeeze, Packet of Three (EP), cynhyrchydd
  • 1978 : Squeeze, Squeeze , cynhyrchydd
  • 1978 : Cristina, Disco Clone, cynhyrchydd
  • 1978 : Marie et les Garçons, Attitudes/Re-Bop (sengl), cynhyrchydd, marimba
  • 1978 : Brian Eno, Music for Films, fiola
  • 1978 : Julie Covington, Julie Covington, piano, clafinet
  • 1978 : David Kubinec, Some Things Never Change, allweddellau, cynhyrchydd
  • 1978 : Harry Toledo & The Rockets, Busted Chevrolet (EP), cynhyrchydd
  • 1979 : Ian Hunter, You’re Never Alone with a Schizophrenic, piano, allweddellau, telyn
  • 1979 : Model Citizens, Shift the Blame (EP), cynhyrchydd
  • 1979 : The Necessaries, You Can Borrow My Car / Runaway Child (sengl), cynhyrchydd
  • 1980 : Snatch, Shopping for Clothes (EP), cynhyrchydd
  • 1980 : Modern Guy, Une nouvelle vie, cynhyrchydd, cembalo, organ, offer taro
  • 1983 : Made for TV, So Afraid of the Russians/Unknown Soldier, cynhyrchydd, gitâr, syntheseisydd
  • 1985 : Nico, Camera Obscura, cynhyrchydd, llais
  • 1986 : Lio, Pop model, cynhyrchydd
  • 1987 : Element of Crime, Try to Be Mensch, cynhyrchydd, allweddellau
  • 1987 : Happy Mondays, Squirrel and G-Man Twenty Four Hour Party People Plastic Face Carnt Smile, cynhyrchydd
  • 1988 : Art Bergmann, Crawl with Me, cynhyrchydd
  • 1989 : Big Vern, Lullabies for Lager Louts, cynhyrchydd, allweddellau
  • 1990 : The Replacements, All Shook Down, fiola
  • 1991 : Maureen Tucker, I Spent a Week There the Other Night, fiola, synthesizer
  • 1991 : Sister Double Happiness, Heart and Mind, “Radar Blips”
  • 1991 : Louise Féron, Louise Féron, cynhyrchydd, piano
  • 1991 : Les Nouvelles Polyphonies Corses, Les Nouvelles Polyphonies Corses, piano
  • 1992 : Los Ronaldos, Sabor Salado, cynhyrchydd
  • 1992 : Hector Zazou, Sahara Blue, llais
  • 1994 : Vince Bell, Phoenix, piano
  • 1994 : Yohji Yamamoto, Your Pain Shall Be a Music, llais
  • 1994 : Hector Zazou, Chansons des mers froides llais
  • 1995 : Siouxsie and the Banshees, The Rapture, cynhyrchydd
  • 1995 : Ivan Kral, Nostalgia, piano
  • 1996 : Marc Almond, Fantastic Star, piano
  • 1996 : Goya Dress, Rooms, cynhyrchydd, piano, cymysgu
  • 1996 : Patti Smith, Gone Again, organ
  • 1996 : Les Nouvelles Polyphonies Corses, In Paradisu, cynhyrchydd
  • 1996 : The Maids of Gravity, The First Second, cynhyrchydd
  • 1997 : Garageland, Feel Alright, cynhyrchydd, piano
  • 1998 : The Jesus Lizard, The Jesus Lizard, cynhyrchydd
  • 1998 : Alan Stivell, 1 Douar, gitâr bâs, cymysgu
  • 1998 : Jack Smith, Les Evening Gowns Damnées (recordwyd yn y 60au),
  • 1999 : Jack Smith, Silent Shadows on Cinemaroc Island (recordwyd yn y 60au),
  • 1999 : Ventilator, Desert Station Frequency, cynhyrchydd
  • 2000 : Mediæval Bæbes, Undrentide, cynhyrchydd
  • 2001 : Super Furry Animals, Rings Around the World, piano
  • 2001 : Jools Holland, Small World Big Band, llais
  • 2002 : Gordon Gano, Hitting the Ground, piano, llais
  • 2002 : Trash Palace, Positions, lais
  • 2003 : Angus MacLise, The Cloud Doctrine (recordwyd yn y 60au), fiola, gitâr, allweddellau
  • 2006 : Alejandro Escovedo, The Boxing Mirror, cynhyrchydd
  • 2008 : The Shortwave Set, Replica Sun Machine, fiola
  • 2010 : Manic Street Preachers, Postcards from a Young Man, allweddellau, sŵn
  • 2016 : Animal Collective, Painting With, fiola

Ffynonellau

golygu
  1. 1.0 1.1 Mitchell, Tim Sedition and Alchemy : A Biography of John Cale, 2003, pp. 24
  2. wici.porth.ac.uk; Yr Esboniadur ar Borth y Coleg Cymraeg.
  3. MarkMordue.com page: "Cold, Black Style: The John Cale Interview Archifwyd 2011-01-01 yn y Peiriant Wayback."
  4. Fluxus Codex, Jon HEndricks, Harry N Abrams 1988 p221
  5. YouTube: John Cale on I've Got a Secret.
  6. http://www.ubu.com/aspen/
  7. http://www.spin.com/articles/john-cale-velvet-underground-wtf-marc-maron/
  8. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-04-12. Cyrchwyd 2014-08-04.
  9. https://www.google.com/webhp?hl=cy#hl=cy&q=john+cale+drugs+south+wales+bbc
  10. "MONA FOMA - Blak on blak - Artlink Magazine". Artlink.com.au. Cyrchwyd 2011-07-04.
  11. Grow, Kory (17 Tachwedd 2015). "See John Cale Attend Dreamlike Masquerade in Eerie 'Close Watch' Video". Rolling Stone. Cyrchwyd 23 Ionawr 2016.
  12. John Cale yn cyhoeddi ei fod am gyfansoddi yn Gymraeg , BBC Cymru Fyw, BBC, 25 Chwefror 2016.

Cyfeiriadau

golygu
  Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun o'r cofnod John Cale ar yr Esboniadur, adnodd addysgiadol agored gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Comisiynwyd y cofnod hwn yn wreiddiol ar gyfer Cydymaith i Gerddoriaeth Cymru, (Y Lolfa, 2018). Mae gan y cofnod penodol hwnnw'r drwydded agored CC BY 4.0; gweler testun y drwydded am delerau ail-ddefnyddio'r gwaith.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: