Inglourious Basterds
ffilm hanes amgen a drama gan Quentin Tarantino a gyhoeddwyd yn 2009
Ffilm o 2009 a ysgrifennwyd ac a sgriptiwyd gan Quentin Tarantino yw Inglourious Basterds. Rhyddhawyd y ffilm yn Awst 2009 gan The Weinstein Company ac Universal Pictures. Cafodd ei ffilmio mewn nifer o leoliadau, gan gynnwys Ffrainc a'r Almaen gan ddechrau ar y broses yn Hydref 2008. Adrodda'r ffilm hanes dau gynllwyn yn Ffrainc (sydd wedi'i meddiannu gan yr Almaen), i ladd yr arweinyddiaeth wleidyddol Natsïaidd yn yr Almaen. Gwneir un cynllwyn gan Iddew Ffrengig ifanc sy'n berchennog sinema, a'r ail gynllwyn gan griw o filwyr Americanaidd a elwir y "Basterds".
Poster y Ffilm | |
---|---|
Cyfarwyddwr | Quentin Tarantino |
Cynhyrchydd | Lawrence Bender |
Ysgrifennwr | Quentin Tarantino |
Serennu | Brad Pitt Mélanie Laurent Christoph Waltz Eli Roth Diane Kruger Michael Fassbender Daniel Brühl Til Schweiger B.J. Novak |
Dylunio | |
Cwmni cynhyrchu | Unol Daleithiau: The Weinstein Company Rhyngwladol: Universal Pictures |
Dyddiad rhyddhau | Mai 20, 2009 (Gŵyl Ffilmiau Cannes) Deyrnas Unedig: Awst 19, 2009 Awstralia: Awst 20, 2009 Gogledd America: Awst 21, 2009 |
Amser rhedeg | 153 munud |
Gwlad | Unol Daleithiau Yr Almaen |
Iaith | Saesneg Ffrangeg Almaeneg Eidaleg |