Idiom
Dywediad neu ymadrodd sydd ag ystyr drosiadol sydd ond yn ddealladwy yng nghyd-destun y frawddeg yw idiom (o'r Lladin "idioma" sy'n golygu "nodwedd arbennig") neu priod-ddull. Mae gan idiom ystyr wahanol i'w ystyr lythrennol neu ddiffiniad y geiriau unigol. Amcangyfrifir fod 25,000 o ymadroddion idiomatig yn Saesneg a cheir nifer yn y Gymraeg hefyd.
Enghreifftiau
golygu- Mae hi'n bwrw hen wragedd a ffyn / cyllyll a ffyrc
- Tynnu nyth cacwn ar fy mhen
- Mae mwy nag un ffordd i gael Wil i'w wely
- Haws dweud mynydd na mynd drosto
- Stori asgwrn pen llo