Iago ap Beli
Roedd Iago ap Beli (560? - 615) (Lladin : Iacobus) yn frenin Gwynedd.
Iago ap Beli | |
---|---|
Ganwyd | 560 |
Bu farw | 613 |
Galwedigaeth | brenin neu frenhines |
Tad | Beli ap Rhun |
Plant | Cadfan ap Iago |
Hanes
golyguNid oes llawer o wybodaeth ar gael am deyrnasiad Iago. Yn wleidyddol roedd yn gyfnod pan oedd y teyrnasoedd Seisnig megis Mersia a Brynaich, yn cynyddu mewn grym, yn enwedig Pybba brenin Mersia a'i fab Penda. Mae'n ymddangos fod Iago wedi dod i gytundeb a Pybba, na fydda Pybba yn ymosod ar Wynedd os byddai Gwynedd yn ei gynorthwyo, os byddai angen, yn erbyn Northumbria. Dywedir i Edwin o deyrnas Deifr gael lloches gyda Iago yn 604 ar ôl cael ei ddiorseddu gan Æthelfrith. Arweiniodd hyn at ymosodiad ar Gymru gan Æthelfrith a brwydr Caer (tua 615) lle lladdwyd Selyf ap Cynan brenin Teyrnas Powys a llawer o fynachod o fynachlog Bangor Is-y-Coed.
Nid oes cofnod fod byddin Gwynedd wedi cymryd rhan yn y frwydr yma. Cofnodir marw Iago ap Beli yn 613, a thybir weithiau ei fod ef wedi ei ladd yn y frwydr. Mae'r cofnod am farwolaeth Iago yn y cronicl (Harleian MS 3859) yn defnyddio'r gair dormitatio (syrthio i gysgu) am ei farwolaeth; nid y gair a ddefnyddid am farwolaeth mewn brwydr. Defnyddir dormitatio fel rheol am farwolaeth gwr eglwysig, felly gall fod yn awgrym fod Iago wedi ymneilltuo i fynachlog. Mae cofnod ei fod wedi rhoi rhodd i eglwys gadeiriol Bangor. Dilynwyd ef gan ei fab Cadfan ap Iago.
Cyfeiriadau
golygu- J.E. Lloyd, A history of Wales from the earliest times to the Edwardian conquest (Longmans, Green & Co., 1911)
O'i flaen : Beli ap Rhun |
Brenhinoedd Gwynedd | Olynydd : Cadfan ap Iago |