Gorsaf reilffordd Caergybi
Mae gorsaf reilffordd Caergybi (Saesneg: Holyhead) yn orsaf reilffordd sy'n gwasanaethu tref Caergybi ar Ynys Cybi, Ynys Môn. Hon yw'r orsaf orllewinol pellaf ar Lein Arfordir Gogledd Cymru ac fe'i rheolir gan Trafnidiaeth Cymru, er bod Virgin Trains hefyd yn gwasanaethu ar yr un linell.
Math | gorsaf reilffordd, gorsaf reilffordd harbwr, gorsaf pengaead |
---|---|
Enwyd ar ôl | Caergybi |
Agoriad swyddogol | 1880 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.308°N 4.631°W |
Cod OS | SH247822 |
Rheilffordd | |
Nifer y platfformau | 3 |
Côd yr orsaf | HHD |
Rheolir gan | Trenau Arriva Cymru, Trafnidiaeth Cymru |
Perchnogaeth | Network Rail |
Statws treftadaeth | Henebion Cenedlaethol Cymru |
Manylion | |
Adeiladwyd yr orsaf gan Thomas Brassey. Cariwyd bron miliwn a hanner o deithwyr ym 1858, a chyrraeddodd tua 100 o drenau'n ddyddiol erbyn 1855.
Agorwyd yr orsaf bresennol gan Reilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin ar 17 Ionawr 1866. Mae’r to gweiddiol wedi goroesi. Roedd 4 platfform, ond mae’r cledrau i blatfform 3 wedi mynd. Mae twr cloc rhestredig Gradd II tu allan i’r orsaf.
Mae platfform 1,defnyddir fel arfer gan drenau Avanti services i Lundain. Defnyddir platfform 2 gan fwyafrif y trenau [Trafnidiaeth Cymru]]. Mae platfform 3 tu allan o’r sied trên; defnyddir y platfform hwn gan y ‘Trên Premier' i Orsaf reilffordd Caerdydd (Canolog). Roedd Terminal Container drws nesaf i’r orsaf hyd at 1991, pan symudwyd i traffig i borthladd Lerpwl.[1] Erbyn hyn, mae’n maes parcio i deithwyr Stena Line.[2]