Gem fforch arian brin

Syngrapha interrogationis
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Arthropoda
Dosbarth: Insecta
Urdd: Lepidoptera
Teulu: Noctuidae
Genws: Syngrapha
Rhywogaeth: S. interrogationis
Enw deuenwol
Syngrapha interrogationis
(Linnaeus, 1758)
Cyfystyron
  • Plusia interrogationis
  • Phalaena interrogationis
  • Noctua aemula
  • Phalaena conscripta
  • Noctua subpurpurina
  • Phalaena aurosignata
  • Plusia borealis
  • Plusia epsilon
  • Autographa zeta
  • Syngrapha pyrenaica
  • Syngrapha flammifera

Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw gem fforch arian brin, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gemau fforch arian prin; yr enw Saesneg yw Scarce Silver Y, a'r enw gwyddonol yw Syngrapha interrogationis.[1][2] Mae i' ganfod yng ngogledd Hemisffer y Gogledd: o Alaska i Ganada ac i Ynys yr Iâ, Ewrop, Siberia a gogledd-ddwyrain Asia.

Darlun yn dangos amrywiad ar y prif ddarlun ar y dde.

32–38 mm ydy maint lled yr adenydd agored ac mae'r oedolyn yn hedfan rhwng Mehefin ac Awst, yn ddibynnu ar ei union leoliad.

Prif fwyd y siani flewog ydy dail mathau gwahanol o blanhigion megis: Vaccinium myrtillus, Vaccinium uliginosum, Betula, Calluna vulgaris, Andromeda polifolia a Urtica.

Isrywogaeth

golygu

Ceir dau isrywogaeth:

  • Syngrapha interrogationis interrogationis
  • Syngrapha interrogationis herschelensis

Cyffredinol

golygu

Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnyws mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.

Wedi deor o'i ŵy mae'r gem fforch arian brin yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.

Gweler hefyd

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

golygu
  1.  Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
  2. Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.