Foras na Gaeilge
Mae Foras na Gaeilge ("Sefydliad y Wyddeleg") yn gorff statudol sy'n gofalu am yr iaith Wyddeleg ac yn ei hyrwyddo yn y ddwy uned wleidyddol yn Iwerddon, sef 26 sir Gweriniaeth Iwerddon a chwe sir Gogledd Iwerddon. Mae'n un o'r cyrff traws-ffiniol a sefydlwyd yn sgîl Cytundeb Gwener y Groglith. Fe'i sefydlwyd ar yr 2 Rhagfyr 1999, ac yn y 26 sir fe gymerodd drosodd swyddogaeth y cyrff Bord na Gaeilge, An Gúm, ac An Coiste Téarmaíochta, oedd yn gyrff statudol yn y Weriniaeth.
Enghraifft o'r canlynol | asiantaeth lywodraethol, rheoleiddiwr iaith |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2 Rhagfyr 1999 |
Pencadlys | Dulyn, Belffast |
Enw brodorol | Foras na Gaeilge |
Gwladwriaeth | Gweriniaeth Iwerddon, Gogledd Iwerddon |
Gwefan | http://www.gaeilge.ie |
Swyddogaethau
golygu- Hyrwyddo'r Wyddeleg;
- Hwyluso ac annog defnydd llafar ac ysgrifennu mewn bywyd cyhoeddus a phreifat yng Ngweriniaeth Iwerddon ac, yng nghyd-destun Rhan III o'r Siarter Ewropeaidd ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol, yng Ngogledd Iwerddon lle mae galw priodol;
- Cynghori gweinyddiaethau, cyrff cyhoeddus a grwpiau eraill yn y sectorau preifat a gwirfoddol;
- Ymgymryd â phrosiectau cefnogol, a chyrff a grwpiau cymorth grant yn ôl yr angen;
- Ymgymryd ag ymchwil, ymgyrchoedd hyrwyddo, a chysylltiadau cyhoeddus a chyfryngau;
- Datblygu terminoleg a geiriaduron;
- Cefnogi addysg cyfrwng Gwyddeleg a dysgu Gwyddeleg.
Canolfannau
golyguSefydlir sawl Áras na Gaeilge ("Llety/Adeilad y Wyddeleg") gan Foras na Gaeilge fel canolfan ar gyfer gweithgarwch dros yr iaith ar draws tiriogaeth Iwerddon. Yn y Áras na Gaeilge yn Nulyn lleolir gorsaf radio gymunedol Wyddeleg ar gyfer y ddinas, sef, Raidió na Life.
Glór na nGael
golyguMae Foras hefyd yn ariannu Glór na nGael corff a sefydlwyd yn 1961 ac sy'n gweithio i hyrwyddo'r iaith o fewn y teulu, chwaraeon a'r gymuned.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol
- Foras na Gaeilge sianel Youtube y corff