Emma Goldman
Anarchydd ac ymgyrchydd gwleidyddol oedd Emma Goldman (27 Mehefin 1869 – 14 Mai 1940).
Emma Goldman | |
---|---|
Ganwyd | 27 Mehefin 1869 Cawnas |
Bu farw | 14 Mai 1940 Toronto |
Dinasyddiaeth | Ymerodraeth Rwsia, Unol Daleithiau America, y Deyrnas Unedig, Lithwania, Ffrainc |
Galwedigaeth | anarchydd, newyddiadurwr, athronydd gwleidyddol, ymgyrchydd dros hawliau merched, darlithydd, cyhoeddwr, ymgyrchydd heddwch, hunangofiannydd, nyrs, llenor, athronydd, gwleidydd, awdur, heddychwr |
Adnabyddus am | Living My Life, Anarchism and Other Essays, The Social Significance of the Modern Drama, My Disillusionment in Russia, My Further Disillusionment in Russia |
Prif ddylanwad | Ralph Waldo Emerson, Friedrich Nietzsche, Johann Most, Henry David Thoreau, Pyotr Kropotkin, Mikhail Bakunin, Mary Wollstonecraft, Nikolay Chernyshevsky, Oscar Wilde, Max Stirner |
Priod | Jacob Kershner |
Partner | Alexander Berkman |
Perthnasau | Stella Cominsky Ballantine |
llofnod | |
Ganed hi yn Cawnas, Lithwania, a oedd yr adeg honno yn rhan o Ymerodraeth Rwsia, i deulu Iddewig. Aeth i'r ysgol yn Königsberg, ond gwrthododd ei thad adael iddi gael addysg bellach. Symudodd gyda'i chwaer, Helena i Rochester, Efrog Newydd, pan oedd yn un-ar-bymtheg oed. Daeth yn anarchydd, a theithiodd o amgylch yn darlithio, gan dynnu tyrfaoedd o filoedd. Carcharwyd hi nifer o weithiau dros y blynyddoedd. Yn 1917 carcharwyd hi a'i phartner i ddwy flynedd am wrthwynebu gorfodaeth filwrol ar gyfer y Rhyfel Byd Cyntaf, ac wedi eu rhyddhau, alltudiwyd hwy i Rwsia.
Yn Rwsia, cefnogodd y Chwyldro Rwsaidd i ddechrau, ond yn ddiweddarach daeth i'w wrthwynebu. Bu'n byw yn Lloegr, Canada a Ffrainc, a theithiodd i Sbaen gan gymeryd rhan yn y Rhyfel Cartref.
Mi areithiodd am bythefnos yn ardal maes glo De Cymru yn 1925 gan siarad i gynulleidfaoedd o Abertawe hyd at y Rondda.[1] Yn yr un flwyddyn, priododd glöwr ac anarchydd o Sir Gaerfyrddin o'r enw James Colton er mwyn sicrhau ei theitheb Brydeinig. Roedd y newyddion ar dudalen flaen The New York Times. Er iddynt barhau â'u bywydau ar wahân anfonwyd llythyron cyson rhyngddynt, a dychwelodd Goldman sawl tro i Gymru i areithio a darlithio.[2]
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Radical Wales, Emma Goldman in Wales; adalwyd 15 Mai 2012". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-05-15. Cyrchwyd 2012-05-14.
- ↑ libcom.org, Emma Goldman – The Queen of Anarchy: The Carmarthenshire Connection; adalwyd 15 Mai 2012