Elisabeth o Ruddlan
Roedd Elisabeth o Ruddlan (7 Awst 1282 – 5 Mai 1316) yn wythfed plentyn, a'r ieunegaf, i Frenin Edward I a Brenhines Eleanor o Castile. O'i brodyr a'i chwiorydd i gyd, hi oedd yr agosaf i'w brawd Brenin Edward II, gan mai dim ond dwy flynedd oedd rhyngddynt o ran oed.
Elisabeth o Ruddlan | |
---|---|
Ganwyd | 7 Awst 1282 Castell Rhuddlan |
Bu farw | 5 Mai 1316 o anhwylder ôl-esgorol Quendon |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Tad | Edward I, brenin Lloegr |
Mam | Elinor o Gastilia |
Priod | John I, iarll yr Iseldiroedd, Humphrey de Bohun, 4ydd iarll Hereford |
Plant | Eleanor de Bohun, iarlless Ormonde, John de Bohun, 5ed iarll Hereford, Humphrey de Bohun, 6ed iarll Hereford, Margaret de Bohun, iarlles Devon, William de Bohun, iarll 1af Northampton, Edward de Bohun, Hugh de Bohun, Mary de Bohun, Edmund de Bohun, Isabella de Bohun, Eneas de Bohun |
Llinach | Llinach y Plantagenet |
Priodas gyntaf
golyguPriododd Elisabeth, John o Ipswich ar 8 Ionawr 1297. Yn y briodas roedd chwaer Elisbaeth, Margaret, ei thad, Edward I o Loegr, ei brawd Edward, a Humphrey de Bohun. Ar ôl y briodas roedd disgwyl i Elisabeth fynd i'r Iseldiroedd â'i gŵr, ond nid oedd yn dymuno gwneud hynny, gan adael i'w gŵr fynd ei hun. Yn ôl y sôn, gwylltiodd y brenin a thaflu coron ei ferch i'r tân.[1]
Ar ôl amser penderfynwyd y dylai Elisabeth ddilyn ei gŵr a theithiodd ei thad gyda hi, drwy Dde'r Iseldiroedd rhwng, Antwerp, Mechelen, Leuven a Brussels, cyn gorffen yn Ghent. Ar 10 Tachwedd 1299 bu farw John o ddysentri, er fod si ei fod wedi'i lofruddio. Nid oedd ganddynt blant.
Ail briodas
golyguAr 14 Tachwedd 1302, priododd Elisabeth Humphrey de Bohun, yn Abaty Westminster.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ T.H. Turner (ed.), Manners and Household Expenses of England in the Thirteenth and Fifteenth Centuries, Illustrated by Original Records (William Nicol/Shakspeare Press, London 1841), pp. lxxvi-vii, note (Internet archive).