Cyfieithydd o Gymru oedd Elis Lewis (fl. 1640–1669). Roedd yn frodor o blwyf Llanuwchllyn ym Meirionnydd (de Gwynedd).[1]

Elis Lewis
Ganwyd17 g Edit this on Wikidata
Bu farw1669 Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethcyfieithydd Edit this on Wikidata

Gwaith llenyddol

golygu

Fe'i cofir fel cyfieithydd llyfr Ralph Winterton, The Considerations of Dreselius upon Eternitie o'r Saesneg i'r Gymraeg. Cyfieithiad oedd gwaith Winterton o'r llyfr Lladin De Aeternitatae Considerationes gan Iesiwit Almaenig o'r enw Dreselius.[1]

Cafodd gyfieithiad Lewis, sy'n cynnwys dwy weddi ychanegol o ffynhonnell anhysbys, ganmoliaeth gan lenorion Cymraeg y cyfnod a cheir cerddi molawd i'r cyfieithydd ar ddechrau'r gyfrol gan y beirdd John Vaughan, Elis Anwyl, Edward Morris a'r brodyr Wiliam a Gruffydd Phylip o Ardudwy.[1]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).