Dwyrain Berlin
Rhan ddwyreiniol dinas Berlin rhwng 1949 a 1990 oedd Dwyrain Berlin a phrifddinas de facto Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen. Fe'i sefydlwyd yn 1945 ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd. Olynodd y sector Sofietaidd o Ferlin a sefydlwyd pan feddiannwyd y ddinas gan y Cynghreiriaid yn dilyn diwedd y Rhyfel. Unwyd y sectorau Americanaidd, Prydeinig, a Ffrengig i greu Gorllewin Berlin. Rhannodd Mur Berlin y ddau hanner o'r ddinas o 13 Awst 1961 hyd at 9 Tachwedd 1989. Ni wnaeth Cynghreiriad y Gorllewin gydnabod Dwyrain Berlin fel prifddinas y GDR nac awdurdod y GDR i lywodraethu yno.
Math | dinas fawr, metropolis, former national capital, sedd y llywodraeth |
---|---|
Poblogaeth | 1,279,212 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | CET |
Daearyddiaeth | |
Sir | Berlin, Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Gwlad | Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen |
Arwynebedd | 409 km² |
Yn ffinio gyda | State of Brandenburg, Frankfurt (Oder) District, Potsdam District, Gorllewin Berlin |
Cyfesurynnau | 52.5186°N 13.4044°E |
Sefydlu
golyguAr ôl i Brotocol Llundain yn 1944 gael ei lofnodi ar 12 Medi 1944, penderfynodd yr Unol Daleithiau, y Deyrnas Unedig a'r Undeb Sofietaidd rannu'r Almaen yn dair ardal feddiannaeth (occupation zones) a sefydlu ardal arbennig o Berlin, a feddiannwyd gan y tri Llu'r Cynghreiriaid gyda'i gilydd.
Ym Mai 1945, gosododd yr Undeb Sofietaidd lywodraeth ddinesig ar gyfer y ddinas gyfan a elwir yn "Ynadaeth Berlin Fwyaf" (Magistrate of Greater Berlin), a oedd yn bodoli tan 1947. Ar ôl y rhyfel, gweinyddodd y Lluoedd Cynghreiriol y ddinas gyda'i gilydd o fewn y Cynghreiriad Kommandatura, a wasanaethai fel corff llywodraethu'r ddinas. Fodd bynnag, ym 1948 gadawodd y cynrychiolydd Sofietaidd y Kommandatura a chwalodd y weinyddiaeth yn ystod y misoedd canlynol.
Yn y sector Sofietaidd, sefydlwyd llywodraeth ddinesig ar wahân, a barhaodd i alw ei hun yn "Ynadaeth Berlin Fwyaf".[1]
Pan sefydlwyd Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen yn 1949, fe hawliodd yn syth Dwyrain Berlin fel ei phrifddinas - hawliad a gydnabuwyd gan bob gwlad Gomiwnyddol. Ni chafodd ei gynrychiolwyr i Siambr y Bobl mo'u hethol yn uniongyrchol ac nid oedd ganddynt hawliau pleidleisio llawn tan 1981.[2]
Gweler hefyd
golygu- Lilly Becher: un o'r awduron gwrth-Natsïaidd cyntaf i gynhyrchu gwaith dogfennol yn ymwneud ag erledigaeth Iddewon yn yr Almaen Natsïaidd yn ystod y 1930au.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Knowles, Chris (29 Ionawr 2014). "Germany 1945-1949: a case study in post-conflict reconstruction". History & Policy. History & Policy. Cyrchwyd 19 Gorffennaf 2016.
- ↑ Berlin seit dem Kriegsende, Helmut Peitsch, Manchester University Press, 1989 tud. 18