Mae dirfodaeth (Saesneg existentialism) yn athroniaeth a mudiad athronyddol sy'n gwrthod metaffiseg ac yn canolbwyntio ar fodolaeth person yn y byd sydd ohoni.

Ystyrir yr athronydd Danaidd Søren Kierkegaard yn rhagflaenydd dirfodaeth. Adweithiodd yn erbyn delfrydiaeth a hunan-fodlonrwydd Cristnogaeth ei ddydd a datblygodd athroniaeth bodolaeth ymarferol a seicolegol ddirfodol.

Yn ddiweddarach cafodd athroniaeth Kierkegaard ei mabwysiadu a'i datblygu gan ymenyddwyr yn Ffrainc, ac yn neiltuol gan Jean-Paul Sartre ar ddiwedd y 1940au ac yn ystod y 1950au.

Mae'r ddirfodaeth a amlinellodd Sartre yn caniatáu rhyddid i'r unigolyn mewn bydysawd nihilistaidd. Serch hynny mae gan yr unigolyn ddyletswydd tuag at unigolion eraill; mae'n gyfrifol am effaith ei weithgareddau arnynt er mai dim ond ei fodolaeth ef ei hun sy'n "real" ac ef ei hun yw unig farnwr ei weithredau ei hun. Yn y bôn, ewyllys yr unigolyn ac nid ei reswm sy'n bwysig pan fo rhaid wynebu dewis, ac nid yw'r unigolyn yn bodoli ond i'w ewyllysio ei hun i weithredu.

Y prif awduron dirfodaethol eraill yn Ffrainc oedd Albert Camus a'r ffeminist Simone de Beauvoir.

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am athroniaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.