Delor y Cnau

rhywogaeth o adar
Delor y Cnau
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Aves
Urdd: Passeriformes
Teulu: Sittidae
Genws: Sitta
Rhywogaeth: S. europaea
Enw deuenwol
Sitta europaea
Linnaeus, 1758

Mae Delor y Cnau (Sitta europaea) yn aelod o deulu'r Sittidae, y deloriaid. Mae'n aderyn cyffredin trwy'r rhan fwyaf o Ewrop a gogledd Asia, er nad yw'n cyrraedd Iwerddon.

Nid yw Delor y Cnau yn aderyn mudol. Mae'n aderyn cyffredin mewn coedwigoedd neu gymysgedd o goed a thir agored. Ei brif fwyd yw pryfed, hadau a chnau. Gall osod cneuen mewn twll mewn coeden i'w dal yn llonydd tra mae'n ei hagor a'i big.

Yn wahanol i'r rhan fwyaf o adar, mae'n medru dringo i lawr bonyn coeden - dim ond i fyny'r bonyn y gall y cnocellod, er enghraifft, ddringo. Mae'n aderyn canolig o ran maint, 14 cm o hyd, gyda pig hir a chryf, pen mawr a cynffon fer. Mae'r cefn yn llwydlas gyda llinell ddu ar draws y llygad. Mae'r lliw ar y bol yn amrywio yn ôl yr is-rywogaeth; mae gan y ffurf S. e. caesia yng ngorllewin Ewrop fol cochaidd, tra mae gan S. e. asiatica yn Asia a S. e. europaea yng ngogledd Ewrop fwy o wyn ar y bol.

Mae'n nythu mewn twll mewn coeden fel rheol, er ei fod yn barod iawn i ddefnyddio blychau nythu hefyd. Os yw'r twll yn rhy fawr i fod yn ddiogel, mae'n rhoi mwd o'i amgylch i'w wneud yn llai. Dodwyir 5 - 8 wy.

Mae'n aderyn cyffredin yng Nghymru, ac mae'n ymddangos fod ei niferoedd wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y ganrif ddiwethaf.

Delor y Cnau - Hwyr Ddyfodiad?

golygu
 
Delor y Cnau yn mwynhau pryd o gnau mwnci

Ar y chwith dyma lun o Delor y cnau (nut hatch), yn busnesu tra’n mwynhau pryd o’i hoff fwyd—cnau mwnci a anfonwyd at Llen Natur. Daeth ymateb oddi wrth Duncan Brown, y naturiaethwr. “Tybed faint o bobl sydd yn sylweddoli bod delor y cnau yn aderyn prin ar un adeg nad oedd yn bresennol o gwbl yng Ngwynedd yn nechrau’r ganrif ddiwethaf.” Bu Duncan yn pori yng Nghofnodion Bywyd Adar yn y Creuddyn 1908 gan R W Jones, un a fu hefyd yn cyfrannu’n rheolaidd i’r ‘Deyrnas’, cylchgrawn misol y Bedyddwyr yn Llandudno a olygwyd gan y Parchedig Lewis Valentine. Dyma gyfieithiad o gofnod 12fed o Ebrill, 1907 -Gloddaeth, Llandudno: “Ceiliog ac iar delor y cnau yn casglu deunydd ar gyfer codi nyth. Dim ond unwaith o’r blaen y cofnodwyd gweld delor y cnau yn Sir Gaernarfon ac yn unman yn nes na Dinbych yn Sir Ddinbych.” Ychwanegodd Duncan: “Roedd ei ymlediad i'r gorllewin yng Nghymru yn cydfynd ag ymlediad tebyg i'r gogledd ym Mhrydain. Mae'r rhesymau am hyn yn ddirgelwch o hyd.”

 
Sitta europaea