Dd
Chweched lythyren yr wyddor Gymraeg yw dd. Mae'n gytsain. Nid yw'n digwydd ar ddechrau gair ond fel treiglad meddal y llythyren d, e.e. 'y ddinas' (dinas), 'dy ddafad' (dafad), ayb.
Gellir ei hysgrifennu â llaw yn y Gymraeg fel ð, ond mae hyn yn bur anghyffredin.